Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/102

Gwirwyd y dudalen hon

y mawrion a'u hynodion, meusydd brwydrau y dyddiau gynt, rheieidr a llynnoedd, cestyll ac amddiffynfeydd, a hanesion ei wlad yn gyffredinol. Ar fore teg a hyfryd, o fewn rhyw wythnos cyn diwedd mis Mai, 1831, wedi iddo wneud ei sypyn dillad yn barod, cyfeiriodd y gwr ieuanc tua'r Berwyn. Aeth yn fore iawn dros Gyrn y Bwch, lle y preswyliai Edward Benyon, y meddyg, yr hwn, ynghyda. Richard ei frawd, yn ol llafar gwlad, a fedrent nid yn unig godi cythreuliaid, ond eu rhoddi i lawr hefyd, yr hyn ni all eu dynwaredwyr yn y gelfyddyd ddu mo'i wneuthur. Bydd yn hwylusach i ni gael enw ar y gwr ieuanc o hyn allan. Yr oedd tri enw arno ef yn wreiddiol. Gelwid ef yn Robert Oliver Davies; ond efe, wedi tyfu i fyny, a ymwrthododd â'r ddau enw olaí, ac a ddewisodd un arall yn eu lle. Yr oedd efe yn hannu o Olifairiaid Meirionnydd; gan hynny, ni a'i galwn ef yn Robert Oliver yn yr hanes hwn. Aeth ef yn mlaen heibio i Ryd y Croesau, lle y ganesid Charles Edwards, awdwr enwog "Hanes y Ffydd Ddiffuant," ac o'r neilldu i breswylfod Hugh Morus (Eos Ceiriog), a chyrhaeddodd Lanarmon Dyffryn Ceiriog. Yr oedd dau beth yn peri fod Llanarmon yn lle o gryn ddyddordeb iddo ef. Buasai un o gewri y pulpud Cymreig yn preswylio yno am rai blynyddoedd, sef y diweddar Morris Roberts, Bryn Llin gynt, ac wedi hynny o Remsen, yn Nhalaeth New York, Gogledd America. Oddeutu mis. cyn dyfodiad Robert Oliver i'r lle yr ymadawsai Mr. Roberts a'i deulu i'r Gorllewin.[1]

  1. Bu y gwr hwnnw dan gryn erledigaeth yng Nghymru, ac yn America drachefn, oblegid rhyw rai o'i ddaliadau crefyddol; ond cafodd amddiffyniad rhagorol yn y cofiant a ysgrifenwyd iddo gan y Parch. Edward Davies, Waterville.