Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/106

Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd yn rhy flin i fyned yn ol i'w ymofyn. Fel yr oedd goren y modd, nid y Gramadeg Dwyieithawg a adawyd ar ol, ond y llyfr Ymadroddion Cymreig wedi eu troi i'r Saesonaeg. Mae y Gramadeg gan R. Oliver hyd heddyw. Fel yr oedd R. Oliver yn dringo o Fetws y Coed i Gapel Curig, yr oedd yn myned am ryw gefnen o fynydd â rhosdiroedd Dolyddelen, lle y preswylai amryw o bregethwyr nodedig o dalentog a efengylaidd; megys John Jones, Tan y Castell; a David Jones, ei frawd; Cadwaladr Owen, a John Williams yr ieuengaf, a John Williams yr hynaf hefyd, yr hwn a ddefnyddiodd yr Arglwydd i ddychwelyd mam yr enwog Williams o'r Wern. Yno hefyd. yr oedd y castell lle y ganesid Llywelyn Fawr, un o dywysogion enwocaf y Cymry, a'r hwn â orchfygodd. y Saeson mewn llawer o frwydrau llofruddiog. Oddeutu naw mlynedd cyn ymweliad Robert Oliver â Chapel Curig, yr oedd gwr o'r enw William Thomas, ewythr frawd ei dad i'r diweddar Barch. William Thomas o Beaumaris, yn cadw tollborth Capel Curig. Yr oedd swyddog perthynol i'r gyllidiaeth yn byw, ar y pryd, yn Llanrwst, ac yn arfer myned, yn fynych, ar ei farch drwy y tollborth a gadwai William Thomas yng Nghapel Curig. Enw y cyllidydd oedd Sturdy, ac yr oedd ef a'r ceffyl a farchogai yn berffaith adnabyddus i'r tollwr. Gwelodd William Thomas ef un bore yn myned drwodd tua Bethesda a Bangor, ac ym mhrydnawn yr un dydd gwelai farch Mr. Sturdy, a marchogwr dyeithr ar ei gefn, yn dyfod at y Tollborth ac yn myned drwodd heb dalu. Cyn hir, dyma erlidwyr o ardal Bethesda yn dyfod ar ol Lewis Owen, ac yn dywedyd ei fod wedi saethu Mr. Sturdy yn ei fraich, ac wedi ceisio ei saethu drwy ei ben, ond wedi methu y tro hwnnw, ae wedi lladrata ei farch,