dychrynnu braidd, gofynnais i fy nhad a oedd Cadwaladr, Wern Ddu, yn dywedyd y gwir, pan haerai na chai plant â llygaid gleision ganddynt fyned i'r nefoedd. Dywedodd yntau,—"Dywed wrtho ef yfory y caiff plant a llygaid gleision ganddynt fyned i'r nefoedd, os byddant yn blant da; ond na chaiff hen bobl â dannedd duon ganddynt fyned yno sut yn y byd." Pan ddaeth yr hynafgwr serchog heibio drannoeth, gofynnodd i mi beth a ddywedasai fy nhad, a thraethais innau y genadwri. Siriol wenai yr hen wr, a chwarddodd yn hyfryd bob yn dipyn, er syndod i'mi. Nid oeddwn i yn deall ergyd sylw fy nhad o gwbl. Cnoi myglys yr oedd Cadwaladr, nes oedd ei ddannedd yn dduon; ond nid oedd fy nhad yn ymarfer âg ef fodd yn y byd ar hyd ei oes.
Ar ddydd tesog ryw haf pan oeddym yn y Ty Coch, a’n rhieni oddicartref, duodd y ffurfafen yn y prydnawn, fflamiodd y, mellt, rhuodd y taranau, a disgynnodd y braswlaw yn llifeiriant. Ceisiasom ninnau, y plant, fyned i'r marchdy i ochel y gwlaw; ond yr oedd ein bysedd yn rhy fyrion i gyrhaeddyd y glicied drwy y twll oedd yn y drws, ac nid oedd gennym ond sefyll ar y rhiniog, bedwar o honom, yn dŷn ochr yn ochr, er mwyn cael cysgod y garreg hir oedd uwchben drws y marchdy, oblegid yr oedd drws y ty wedi ei gloi i fyny, a'r agoriad gan ein mam, a honno oddicartref. Yr oedd arnom ofn y taranau, ac wylem am yr uchaf. Cyn hir, dyma Cadwaladr Williams, Wern Ddu, yn rhedeg atom drwy y rhuthrwlaw; agorodd ddrws y marchdy, ac aeth efe a ninnau i mewn gyda ein gilydd. Wedi i ni ddywedyd fod arnom ofn y taranau, ac nad oedd ein rhieni gartref, dechreuodd efe ein cysuro a'n llonni. "I beth yr