Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

ydych yn crio, fy mhlant i?" meddai. "Ofn y taranau sydd arnom ni." "P'le mae eich tad a'ch mam?" "Oddicartref." "O, peidiwch a chrio; nid oes ar neb sydd yn ei sense ofn taranau." "Oes arnoch chwi ddim o'u hofn nhw?" "Nac oes: a wyddoch chwi ddim beth ydyw y taranau?" "Na wyddom ni'n wir." "Wel, fy mhlant i, chwi a welsoch yr awyr las fawr sy tudraw i'r cymylau yna." "Do, lawer gwaith." "A wyddoch chwi beth ydyw yr awyr honno?" "Na wyddom." "Tin ydyw hi, fel y tin sydd ganddoch chwi yn cario dŵr i'ch mam, ond ei fod o yn tin mawr, gwastad, ac yn llofft dros yr holl wlad. "O'r anwyl!" "A ddarfu chwi ddim sylwi fod y llofft tin honno yn pwyso ar ben Llangower a Moel y Graig, a'r holl fryniau uchel?" "Do." "Wel, fy mhlant i, pan fo hi yn daranau, Deio'r Graig fydd yn myned i ben y foel, ac olwyn trol ganddo, ac wedi rhoi tair carreg dan ei draed, yn myned a'r olwyn o'r tu fewn i'r tin, ac yn ei bowlio hi ar hyd y tin, nes y bo yn cadw swn dros yr holl wlad. Peidiwch ag ofni; gwaith Deio'r Graig ydyw y cwbl." Anghofiasom ofyn iddo beth oedd y mellt. Pe gwnaethem hynny, pur debyg y dywedasai mai rhyw gastiau o eiddo Deio gyda phylor oedd y rhai hynny hefyd. Pa fodd bynnag, llwyr dawelwyd ein hofnau ni. Dywedasom esboniad Cadwaladr, Wern Ddu, ar y taranau wrth ein tad pan ddaeth adref. Gwenu a wnaeth efe, ond ni ddywedodd ddim yn erbyn eglurhad y gwr o'r Wern Ddu. Dyna fy syniad cyntaf i am y taran. Bu Deio'r Graig yn wr mawr yn ein golwg, ni am beth amser. Tebygol i Deio glywed esboniad. Cadwaladr, oblegid pan welsom ni ef oddidraw, gwaeddasom arno, a gofynasom iddo,—"Deio, ai ti oedd yn gwneud y taranau y dydd o'r blaen?" "Ie,"