Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/21

Gwirwyd y dudalen hon

iaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws, ymenyn, cig, na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a'u rhoddai i ni i'w bwyta gyda y dwfr y berwasid hwynt ynddo, ac nid oedd ganddi ddim oedd well iddi ei hun, er fod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd. Yr wyf yn eofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor wael. Gwelais hi yn prynnu rhuddion i'w wneud yn fara i ni. Gwingem ein goreu rhag tlodi, ond y cwbl yn ofer. Y prif beth a feddem i ymddibynnu arno oedd cyflog fy nhad; ond bob yn ychydig, dysgasom ni, y plant, wau hosanau i'w gwerthu, ac enillem drwy hynny ryw ychydig. O'r diwedd, cymerwyd fy nhad a'm mam, a'r teulu oll, yn afiach gan glefyd trwm. Buom felly yn hir iawn, a bu raid i ni gael cymorth plwyfol y pryd hwnnw. Bu brodyr a chwiorydd crefyddol yn dda iawn wrthym yn yr amgylchiad cyfyng. Yr oedd yn anhawdd iawn cael neb i'n hymgeleddu. Daeth fy nain o Ty'n y Gwynt atom; ond tarawyd hi gan y clefyd, dychwelodd adref, a bu farw yn fuan iawn. Un Ann Jones, chwaer y Parch. Ellis Evans, D.D., o'r Cefnmawr, a fu yn ffyddlon iawn i ddyfod atom. Deuai i'n gwylio y nos, a gweithiai yn ein lle y dydd. Bu wedi hynny yn wraig i un Evan Jones, Ty'n y Braich, Dinas Mawddwy, ond bu farw flynyddoedd yn ol.

Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely plyf da; ond gan ein bod ar y pryd yn cael cymhorth plwyfol, daeth Overseer y plwyf, a'i fab gydag ef, i'n ty ni, a thynasant y gwely odditan fy nhad, yr hwn oedd i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a'i synwyrau yn dyrysu yn fawr, gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o'r ardal oedd ar gychwyn i