America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar weilt. Yr oeddwn i yn dechreu gwellâu y pryd hwnnw, ac yr wyf yn cofio gweled yr Overseer hwnnw, gyda pherffaith ddideimladrwydd, yn myned a'r gwely ymaith. Mae gan ei fab blant, a chan un o'r rhai hynny blant hefyd. Na ddened un o honynt byth i amgylchiadau mor gyfyng a'r rhai yr oeddym ni fel teulu tlawd ac afiach ynddynt y pryd hwnnw; a phe deuent,na fydded iddynt gael ymddwyn tuag atynt mor galed a didosturi ag y cafodd fy rhieni ymddwyn tuag atynt yn yr amgylchiad dan sylw. Gwellhaodd pob un o honom yn raddol; ail ymaflodd fy nhad yn ei waith, dechreuasom ninnau wau hosanau, hel cen cerrig, yr hwn a werthem am geiniog a dimai y pwys, mwy neu lai, ac felly, cynorthwyem dipyn ar ein rhieni. Nid oedd braidd garreg, o ychydig faintioli, yn yr holl fynyddau o gylch ein cartref nad oeddym yn ei hadnabod fel adnabod ein cymydogion, oblegid ein bod wedi bod mor fynych yn cenna yn eu plith. Buom lawer gwaith mewn perygl am ein heinioes wrth ddringo i chwilio am y cen; yn enwedig Margaret a minnau, unwaith mewn craig a elwir Clogwyn yr Eglwys, yn Mhennantlliw Bach. Aethom rywfodd i le y buom am oriau lawer yn methu yn lân a dyfod allan o hono; ond wedi bod yn garcharorion ar hyd y prydnawn, ni a lwyddasom i ddyfod oddiyno gyda y nos, dan grynnu, uwchben dyfnder mawr a dychrynllyd, a'n bywydau yn ddiogel gennym.
Yn haf y flwyddyn 1817, debygaf, gadawsom Dan y Castell, ac aethom i'r Adwy Wynt, gerllaw Blaenlliw Isaf, i gadw hafod dros fisoedd yr haf. Yr oedd fy nhad yn gweithio ar y tyddyn, a ninnau yn hannos ac yn cenna. Beudy oedd yr Adwy Wynt, a'r tân yn y naill ben iddo, a'r mwg yn myned allan drwy