Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

Daethom i draeth yr afon Dyfi, ond bu raid i ni aros am gryn ddwy awr am y cwch o'r ochr arall. Yr oedd yn drai; ond cyn i'r ewch ddyfod, yr oedd y llanw yn dyfod i mewn. Daeth boneddwr tirion atom. Bob yn dipyn holodd ni. Dywedasom ninnau ein holl hanes, a phwy oedd gweinidog Llanuwchllyn. Gwnaeth i ni ddarllen o'r Beibl oedd gennym, ac adrodd pethau a ddysgasem. Wedi croesi yr afon, dywedodd wrth y cychwyr,—"Yr wyf fi yn talu dros y plant bach." Ni ddeallasom ni ef ar y cyntaf, a phan oeddym a'r pres yn ein dwylaw yn eu cynnyg i'r cychwr, dywedodd hwnnw fod y boneddwr wedi talu drosom. Pwy ydoedd, ni wyddem ni; dyna yr olwg olaf a welsom ni arno; ond fe wnaeth weithred dda, pwy bynnag ydoedd, gweithred a goffeir yn nydd y farn ddiweddaf.

Daethom i Dowyn, a chawsom le i gysgu mewn taflod wair yn nghwr y dref. Addawodd y dyn a'n harweiniodd ni yno ddyfod a thamaid i ni, ond anghofiodd. Mewn taflod o wair, ac heb swper, y buom ni ein dau y noson honno. Cawsom lety cysurus nos drannoeth yn y ty sydd wrth bont Dysyni, yn ochr Llanegryn i'r bont. Cawsom le i fwrw y Sabbath yn nhy'r Gawen, a chroeso calon hefyd. Cawsom waredigaeth fawr yn Nhowyn. Wrth godi y bore o'r daflod wair, syrthiasom ein dau drwyddi i'r gwaelod. Syrthiais i ar flaen dant ôg, ond ni chefais nemawr o niwed. Cafodd fy mrawd fwy o niwed na myfi, a bu efe yn wylo yn hidl am beth amser. Yr oeddwn innau yn hongian ar y dant ôg, ac ni allwn. mewn un modd ymryddhau. Fy mrawd a'm tynnodd oddiyno. Cyrhaeddasom adref yn iach, a dyna y daith gardotawl olaf i mi. Gyda dyddordeb yr edrychais yn wastad wedyn ar y tai y lletyasom