Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

hwnnw hefyd y dechreuasom yr achos yn Birkenhead. Bychan iawn oedd hwnnw yn y dechreuad, ond y mae yn gallu cynnal gweinidog ei hunan er's llawer o flynyddoedd bellach.

Cyfarfum i a'r plant a phrofedigaeth lem a cholled fawr yn Liverpool. Ar y 29ain o Ionawr, 1847, bu farw fy anwyl wraig ar enedigaeth merch, a bu farw y ferch hefyd yr un pryd, a chladdwyd y ddwy yn yr un arch, Chwefror laf, yng nghladdfa Low Hill. Parodd marwolaeth Mrs. Thomas mor ddisymwth, a chyn cyrhaeddyd pen ei thrydedd flwydd ar ddeg ar hugain, gyffro a galar cyffredinol ymysg eglwysi Anibynnol Cymreig Liverpool, oblegid mawr berchid hi gan bawb o'i chydnabyddion yn y gwahanol eglwysi. Ni chawsai hi na'r plant iechyd da yno o gwbl, ond yr oeddwn i fy hunan yn weddol iach bob amser.

Wedi fy ngadael gyda thri o blant amddifaid afiach i gadw ty gyda morwynion, aeth bywyd yn Liverpool yn fwy o flinder nag o gysur i mi. Felly mi a symudais i'r wlad, a chymerais ofal yr eglwysi Anibynnol ym mhlwyf Rhiwabon, sef yn Rhosllanerchrugog, Rhosymedre, a Rhiwabon. Pan yno, bu farw fy merch ienangaf o'r clefyd coch, a chladdwyd hi ym mynwent y Wern, pan nad oedd ond tri mis dros. saith mlwydd oed. Bu hynny yn ergyd trwm i mi, oblegid yr oedd yn fy ngolwg yn wastad yr anwylaf o'r teulu. Bum yn y Rhos oddeutu saith mlynedd. Llafuriais yno dan amryw o anfanteision, ond ymroddais i waith y weinidogaeth, ac ni adawodd yr Arglwydd fi yn hollol ychwaith. Cefais y fraint o dderbyn cryn nifer o aelodau yn y gwahanol leoedd oedd dan fy ngofal, a chadwodd y gynulleidfa yn ei lluosogrwydd, a chynyddodd hefyd yn y gwahanol