Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/55

Gwirwyd y dudalen hon

ARDAL MEBYD.

"𝕹ES penelin nag arddwrn," medd hen air adabyddus yn mhlith ein cydwladwyr felly hefyd, nes yw yr ardal lle y ganwyd ac y magwyd ef at feddwl a serch ysgrifenydd y llinellau hyn nag un arall o fewn Cymru benbaladr;. a naturiol yw iddo, yn gyntaf oll, ysgrifennu ychydig o gofnodion am ardaloedd ei fro gysefin.

Mae llawer o hynodion ac amrywion yn perthyn i'r rhandir a elwir Penllyn. Yn ei chanol y mae y llyn mawr, môr canoldir Meirion, yr hwn, weithiau, a wisga wên hawddgar a deniadol iawn, ond sydd heddyw yn noethi ei ddannedd, ac yn rhuo megys bwystfil ysglyfaethus, fel pe byddai am falu a llyncu pob peth sydd yn agos i'w derfynau. Ond er ei fawredd a'i rwysg, mae yn rhy fychan i foddloni ei ddyfroedd, ant allan o hono i chwilio am gartref mwy cydnaws a'u naturiaeth ym mynwes y môr: rhywbeth yn debyg i ysbryd anfarwol dyn, yr hwn nis gall ymgartrefu ond am dymor byr yn unlle, nes y cyrhaeddo fynwes y Duw a'i gwnaeth. Mae yn y llyn doraeth mawr o amrywiol bysg, ac felly y mae yn yr afonydd a ymarllwysant iddo. Dywedwyd yn fynych fod y brif afon sydd yn ymdywallt iddo yn rhedeg drwyddo heb ymgymysgu a'i ddyfroedd, ond nid yw hynny ddim ond un o freuddwydion y trigolion gynt, pan oedd nos anwybodaeth yn gordoi y wlad.

Mae ym Mhenllyn lwyni prydferth o amryw goedydd, dolydd breision, porfaoedd meillionog, eithinoedd llymion, ucheldiroedd corsiog, marwddyfroedd cysglyd, rhaiadrau trochionog, brysiog, a thrystiog, mawnogydd dyfnion, gwastadeddau grugog, rhosydd grugwelltog, a llechweddau caregog a diffrwyth, lawer