Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/59

Gwirwyd y dudalen hon

ar y gwastadedd, yng ngwaelod y cwmn, yr oedd perchenogion y castell yn arfer cartrefu, ac y mae yno hyd heddyw le a elwir "lle'r llys," ac mai cilio y byddent yn nydd rhyfel a therfysg i amddiffynfa Carn Dochan, lle y gallent herfeiddio unrhyw allu gelynol i'w gorchfygu. Tyb-osodiad ydyw hyn; ond y mae y goreu a all yr ysgrifennydd ffurfio.

Yr oedd yr ardaloedd hyn yn y dyddiau gynt, yn dryfrith o fân uchellwyr, y rhai oeddynt bob un yn perchenogi tyddyn, neu ddau, neu dri, ac yn byw yn lân ar eu moddion. Yr oedd ym mhlwyf Llanuwchllyn, yn unig, lawer o'r cyfryw fân uchelwyr; megys yn y Llwyn Gwern, y Prys, Plas Deon, Plas yn Nghynllwyd, Plas Madog, Glan Llyn, a Chaer Gai, yn nghyda mannau eraill; ond drwy briodasau, gwerthiadau, a gwastraff yr hen deuluoedd, y mae y tiroedd yn bresennol wedi myned i ychydig o ddwylaw, mewn cymhariaeth, er colled drom i anibyniaeth y wlad, mewn unrhyw faterion o bwys cyffredinol i'r trigolion. Pe buasem yn alluog i nodi allan pwy oedd sylfaenwyr hen deuluoedd yr ardal, a phwy oedd perchennog cyntaf Castell Carn Dochan, ai Riryd Flaidd, Arglwydd Penllyn, neu rywun arall (yr hyn nis gallwn), ni fuasai hynny o nemawr fudd i'n darllenwyr, er y buasai yn ddigon difyrrus i hoffwyr hynafiaeth; ond rhaid i ni adael y pethau hyn fel y cawsom hwynt, dan len gudd ebargofiant. Bu o bryd i bryd, amryw o wyr enwog, fel beirdd a llenorion, yn preswylio yn yr ardal hon, ac y mae enwau rhai o honynt wedi disgyn i lawr i'n dyddiau ni. Gallwn nodi y rhai canlynol.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llywarch Hen
ar Wicipedia

LLYWARCH HEN. Efe yw y mwyaf ei athrylith o'r cynfeirdd. Collodd ei feddiannau yn y Gogledd, collodd ei feibion mewn rhyfeloedd, ffodd i lys Cyn