Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

oedd tri o blant y teulu sydd dan ein sylw yn ei gasglu bob dydd, sych a theg. Casglai y tri rhyngddynt oddeutu deunaw pwys, yr hyn oedd yn gryn gymorth i'r rhieni a'r plant allu byw, a thalu eu ffordd. Troes lluoedd allan i'r ffriddoedd a'r mynyddoedd i'w gasglu, ac yr oedd y casglwyr gyda eu cynion yn hel y cen yn llawer cynt nag y tyfai ar y cerrig; ac felly, aeth y nwydd yn brin yn yr holl leoedd oeddynt yn gyfleus i gyrchu iddynt; a rhaid oedd myned yn bellach, bellach, yn barhaus. Yr oedd dau o fechgyn y ty a'r to rhedyn yn myned mor bell a'r Arennig i hel y cen. Cychwynnent gyda chodiad yr haul, a'u tamaid bwyd gyda hwynt— gweithient yn ddiwyd a chaled, bwytaent eu tamaid lluniaeth wrth ffynnon oedd yn berffaith adnabyddus iddynt hwy, a dychwelent adref gyda'r nos—taith, rhwng myned a dyfod, o ddeuddeg milldir o ffordd. Parhausant i deithio felly ar hyd mis Mai, a hanner Mehefin. Ond aeth y teithio hwnnw, bob yn tipyn, yn flin ganddynt; a rhyw fore teg yng nghanol Mehefin, 1818, cymerasant gyda hwy ddigon o luniaeth i barhau dros ddau ddydd, ac aethant ymaith i gefn yr Arennig, lle y buont yn cenna nes aeth yn hwyr. Yna aethant at dy o'r enw Amnoedd Wen, a gofynasant a allent gael llety am noswaith. Holwyd hwy pwy oeddynt, a pha beth a'u dygasai yno. Wedi cael eglurhad perffaith foddlawn gan wraig y ty, cawsant lety a chroesaw mawr gan y wraig, yr hon oedd yn weddw ar y pryd, a chanddi un plentyn amddifad, naw mlwydd oed. Bore drannoeth, deisyfodd y wraig ar y ddau fachgen aros gyda hi, i helpu am fis yn y cynhauaf gwair, ac i wneud y peth a allent—taenu ystodiau, tywys y ceffylau, a'r cyffelyb, a chymerodd arni ei hunan i roddi hysbysrwydd i'w