Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

Y GOF.

𝕸AE gwaith y gof yn gelfyddyd hen iawn. Mae agos mor hen a gwaith yr amaethwr; ac fel amaethyddiaeth, yn un o anhebgorion cymdeithas wareiddiedig. Mae llawer o'r celfyddydau sydd yn ein plith yn addurniadau prydferthion i wlad; ond, ar yr un pryd, prin y gellir dywedyd eu bod mor angenrheidiol i fywyd cymdeithasol ag ydyw gwaith yr amaethwr, y saer, y gof, y crydd, a'r teiliwr. Ceir fod rhai pethau yn dyfod yn raddol i'r fath bwysigrwydd, megys yr agerdd a'r trydan yn ein dyddian ni, fel bron na theimlem nas gellid gwneuthur hebddynt, mewn modd yn y byd, gan mor werthfawr, effeithiol, ac amrywiol yw eu gwasanaeth i wladwriaeth. Pe darfyddai am danynt mewn un noswaith, byddai bore y dydd canlynol yn un rhyfedd iawn; eto, pan gofiom ddarfod i'r byd allu gwneuthur heb eu gwasanaeth presennol am yn agos i chwe' mil o flynyddoedd, ni fyddai raid i ddynolryw syrthio i iselder anobaith pe y diflannent yn ddisymwth allan o'r ddaear. Ond y gof ydyw pwnc yr ysgrif hon: ac nid y gof ychwaith yn yr holl amrywiaethau a berthyn i ddefnyddiad yr enw; megys, gof du, gof gwyn, gof copr, gof arian, gof aur, ond y gof fel yr adnabyddir ef a'r gelfyddyd yn ein gwlad, ac yn ein dyddiau ni.

Gorwedda tywyllwch ar ddechreuad celfyddyd y gofaint, fel ar ddechreuad llawer o gelfyddydau eraill; ond y peth tebycaf i fod yn gywir ydyw, fod gan y Brenin mawr ei hunan law uniongyrchol mewn dysgu a chyfarwyddo dynion i ddarparu meteloedd at waith, ac i'w gweithio, ar ol eu darparu, at wasanaeth cymdeithas yn gyffredinol. Nid yw hyn yn