Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/78

Gwirwyd y dudalen hon

gwneud y Goruchaf yn of, mwy nag ydyw ei waith yn gwneud peisiau crwyn i'n rhieni cyntaf yn ei wneud yn ddilledydd. Y mae dysgu y gof mor addas iddo ef ag ydyw dysgu yr amaethwr; ac y mae gennym dystiolaeth bendant yn y Beibl ei fod yn gwneuthur hynny, yn gystal a'i fod yn dysgu y celfyddydwr yn yr anialwch i weithio cywreinion y tabernacl. Nid ydym yn dywedyd dim am y dull a'r modd y dysgodd efe y gof cyntaf, na'r crefftwyr yn yr anialwch. Gadawn bethau felly yn ei law ef ei hun. Digon yw i ni ei fod ef yn gwneuthur pethau o'r fath a nodwyd, a bod hynny yn gweddu iddo.

Myn rhai mai Tubal Cain yw tad y gofaint; ond ni ddywed y Beibl hynny. Pan yr ystyriom mai yr wythfed o Adda, a chyfrif Adda ei hun ar ben y rhestr, oedd Tubal Cain, mae yn anhawdd gennym dderbyn y syniad hwnnw. Yr oedd ar ddynion angen am waith y gof, debygem, oesoedd maith cyn dyddiau Tubal Cain, yn gystal ag am waith y saer, ac nis gellir cael saer heb y gof, i ddarparu arfau iddo. Ni a ddarllennwn am adeiladu dinas cyn dyddiau Tubal, ac, ond odid fawr, nad oedd peth o waith y gof a'r saer yn adeiladaeth y ddinas honno. Heblaw hyn, ymddengys fod Tubal Cain yn gelfyddydwr rhy berffaith i fod yn ddechreuydd gwaith y gofaint. Yr oedd efe yn "weithydd pob CYWREINWAITH pres a haiarn." Yr oedd y gelfyddyd yn lled bell yn mlaen, debygid, erbyn ei ddyddiau ef.

Cawn rai cyfeiriadau at y gof yn yr ysgrythyrau, hyd yn nod yn yr ystyr gyfyng y defnyddir y gair gennym ni yn yr ysgrif hon, heblaw yr hyn a ddywed y Beibl am Tubal Cain. Mor anhraethol o brydferth yw darluniad yr ysgrifennydd santaidd o sefyllfa pobl Israel dan orthrymder y Philistiaid, "Ac ni