Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/96

Gwirwyd y dudalen hon

lawer ar dir a môr: ac amcan mawr Prydain yn y dechreu oedd rhoddi i lawr ysbryd gwerinol y Ffrancod, darostwng Napoleon wedi hynny, ond yn bennaf oll, llethu tueddiadau Rhyddfrydol ym mhlith trigolion y wlad hon. Heblaw rhestru dynion fel. gwirfoddolwyr, yr oedd codi meiwyr (militia) yn beth tra chyffredin. Ychydig o wyr ieuainc, a mân dyddynwyr, mewn ardaloedd gwledig, fyddent yn foddlon i wasanaethu yn rhengau y meiwyr drostynt eu hanain. Gan hynny, yr oedd yn rhaid i'r rhai a godid trwy y tugel, os yn anfoddlon i wasanaethu yn bersonol, gael eraill i sefyll yn eu lleoedd. Ni ellid cael hynny heb symian go fawrion o arian i wobrwyo a boddloni y cynrychiolwyr. Y ffordd a gymerid fyddai clubio, fel y dywedid, sef i bob un y byddai ei enw i lawr fel un cymwys i wasanaethu ym mysg y meiwyr, dalu swm penodol, ac i'r arian gael eu defnyddio i wobrwyo y rhai a safent drostynt eu hunein, ac i gyflogi cynrychiolwyr. Yr oedd peth felly yn dreth drom ar y werin mewn amser pryd yr oedd cyflogau yn fychain, ae yr oedd y wlad hon yn llawn o anfoddlonrwydd o'i herwydd. Os byddai rhywun yn gwrthod talu ei gyfran i'r clwb, nid oedd hwnnw i gael dim o'r arian iddo ei hun, nac i bwrcasu cynrychiolwr!

Bob yn dipyn, sylwyd nad oedd meibion pobl gyfoethog byth, braidd, yn cael eu codi trwy y tugel, a dechreuwyd amheu a oedd eu henwan hwy ar y llyfrau o gwbl. Cryfhaodd yr amheuaeth fwyfwy, a phenderfynwyd chwilio i'r peth, a mynnu cael gwybod a oedd eu henwau i lawr, ac ym mysg y rhai oeddynt i gael eu codi at y meiwyr. Daeth pobl Llanuwchllyn yn lluoedd i'r Bala i ymofyn ynghylch y cwestiwn. hwnnw, ond ni chaniateid iddynt gael gweled y llyfr-