Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/66

Gwirwyd y dudalen hon

ond fe ath o i meddwi'n shocking, a dyna rheswm iddo mynd off o'r Plas. Pity, pity! Ma Doctor am i fi deyd i ti fod case ma yn serious iawn.

NEL (ar ei thraed): Ydi o'n mynd i farw heno?

MR. BLACKWELL (cydia yn ei llaw): Paid ti torri calon di, Nel Davis, fi gofalu am ti ar ol i tad di mynd.

NEL (â'i phen ar y bwrdd): O nhad!

MR. BLACKWELL: Paid ti upseto dy hun—fi gofalu am ti. Fi'n gyrru di off i Liverpool ne London at pobl caredig i dysgu ti bod yn nyrs ne rhwbath. Cei di dim bod isia dim a fi talu popeth. Ti dod i'r Plas heno, house-keeper fi'n gwbod sut i bod yn garedig. Mi gnei di dod, Nel Davis, yn gnei di? Ma trap fi wrth y drws i mynd a ti i'r Plas at house-keeper fi. Ti yn gneud dy hun yn parod i dod yn trap at house-keeper yn y munud a fi yn cael chat bychan â Doctor. (A allan drwy'r dde.)

MR. HARRIS (daw i mewn o'r chwith): Nel bach, fi sy'n gorfod torri'r newydd i chi. Peidiwcha chyffroi: mae'ch tad wedi mynd.

NEL (fel pe mewn breuddwyd): Wedi marw! (Cyfyd yn benisel ac arweinir hi allan ar y chwith, a syrth y llen ar y ddau yn cyrchu'n araf at y drws.)