Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eisteddfod. Paham na fyddai aelodau y Pwyllgor yn gwrandaw ar lais ein cenedl yn hyn o beth? Ië, paham na roddant gefnogaeth, a galwad i chwilio y trysorfeydd llawnion yma ydynt yn aros, "byth-a-hefyd," heb eu gwerthfawrogi, yn lle gwario arian, a gwastraffu ymenydd gyda bwrn o destynau gweigion nad ydynt yn cyfoethogi ein Hiaith, nac o fawr wasanaeth cenedlaethol? Yr ydys yn symmud yr Eisteddfod bob blwyddyn, ac fe allesid symmud hefyd gyda hi y Testyn uchod (sydd wedi ei esgeuluso cyhyd), trwy holl Gymru, ac fel hyn gael gafael ar adnoddau llenyddol penaf ein hiaith.

Ond i ddychwelyd yn nês at y pwnc a gymmerasom mewn llaw, Pa beth ydyw tarddiad, neu Pa fodd y cafodd y dalaeth hon ei galw yn Lleyn? Dywed rhai mai tarddiad y gair yw "llain," am mai megys "llain" o dir yw ffurf y wlad. Eraill a'i treiglant o'r Hen Gymraeg, leûn=luen=Manawaeg, lane=Ir. & Gael, lán=llawn, am fod y rhandir yn llawn ffrwythau. Un awgryma mai ei ffurf gyntefig yw lhaen=dyffryn, am fod yr holl fro o ben y mynydd uchaf yn debyg i ddyffryn. Arall a dystiolaetha mai ei darddiad yw lyen=lhyen=llen (the Englishman's Lên), llenyddiaeth, neu wlad y gwŷr llên, oherwydd hen goleg Enlli. Ond mewn gwirionedd, fel y cafodd Ceredigion ei henw oddiwrth yr hen frenin Ceredic, felly cafodd Lleyn hithau ei henw oddiwrth Lleyn ap Baran, am iddo feddiannu y diriogaeth hon oddiar frenin Gwynedd, er fod genym le i farnu fod yr enw yn hynach.

Prydferthwch y wlad.

FEL rheol, nid yw y Cymry yn gweled fawr o ardderchawgrwydd yng ngolygfeydd yr ardaloedd hyny lle y maent wedi eu geni a'u magu, ie, lle