Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llythyrau rhyfeddaf, fel y mae yr Athronydd ei hun yn dotio wrth eu darllen. Try y Gwyddon mwyaf dysgedig yn blentyn mewn addysg wrth olrhain y nerthol weithrediad tanddaearol fu yn codi i fyny y bryniau sydd o'n hamgylch. Y mae y dadansoddwr, mae yn wir, yn myned i'r niwl wrth ddosbarthu yr ulai, ufelai, blorai, lliorain, halnwg, llosnur, &c., ydynt yn llechu yn y gwahanol ddefnyddiau. Etto, a gadael o'r neilldu y dirgeledigaethau hyn mewn perthynas i'r fro sydd dan ein sylw, y mae rhyw bethau yn ddigon amlwg. Ffol fyddai y dyn na edrychai ar effeithiau deddfau natur yn eu holion, gan eu dilyn yn ol yr hyfforddiadau y mae dysgeidiaeth wedi roddi yn ei feddwl. Nid af i fanylu gyda hynodion Daeareg fel y mae yn ymagor o'n blaen tua glanau y môr sydd bron gylch-ogylch y diriogaeth hon, gan mai digon i gyflawni yr amcan sydd genym mewn golwg fydd crybwyll un ffaith neillduol. Rhwng hen blwyf Llanengan a Llanfaelrhys, y mae clogwyn a elwir "Mynydd y Rhiw," yr hwn sydd tua 1,013 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr. Ceir yma olygfa dlos ar fynyddoedd Eryri, rhanau o sir Aberteifi, Penfro, Ynys Môn, ac hyd y nod Fryniau yr Iwerddon ar ddiwrnod clir. Ond yn lle bod yn safon i'r edrychydd i weled golygfeydd yr amgylchoedd, mwy na thebyg y byddai yr holl amgylchoedd uchod yn troi eu gwynebau i edrych ar olygfeydd a rhyfeddodau y Mynydd ei hun yn yr amser gynt. Wrth bob argoelion, byddai ei losgfeydd a'i fflamau yn esgyn i'r uchelder, a'i daranau yn treiddio i'r gororau pell. Cenfydd y daearegwr ar unwaith arwyddion diamheuol fod y clogwyn crybwylledig ryw oes o'r ddaear wedi bod yn Llosg-fynydd. Gwelir pant-le ar ei ben, lle yr oedd y llosgenau (crater). Yn yr ystyr yma y gallwn roddi cyfrif am y cawodydd cerryg ydynt yn garneddau mawrion wedi syrthio fel y maent ar odreu y Mynydd, a dengys rhai o honynt eu bod wedi cael eu berwi yn yr ufel (lava), olion yr