Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/186

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ol i lawr tua phum llath yn y ddaear. Yr oedd tair gafael wedi eu cafnio ym myrddau tewion ei dwy ochr, hyny yw, tair un tu, a thair y tu arall, fel y gallasai chwech o ddynion ei chludo i'r Gladdfa. Y mae yma ffynhonell fechan, dwfr yr hon & ystyrir yn feddyginiaethol, ac a elwir yn "Ffynhon y Beddi "hyd y dydd heddyw.

Gwelir "Ogo' Engan" o Dyddyn Iago yn y graig, lle yr ymguddiai Engan Sant, brenhin y Rhandir hon, ac offeiriad Llanengan, pan y byddai yn cael ei erlid gan ei elynion.

Y DIWEDD.