Ysw., o Nanhoron, y cyntaf a gymmerodd yr enw teuluaidd Edwards, y pummed oddiwrth Rhys, ap Gruffydd, a briododd Ann, merch ac etifeddes Ffrederig Wynne, Ysw. o Bodfuan, trwy yr hyn y cyssylltwyd Bodwyddog & Nanhoron, Llangwnadl, Hirdrefaig, a Bronheulog, yr oll yn perthyn yn ddiweddar i R Lloyd Edwards, Ysw., Nanhoron (Bryn y Neuadd), ond yn awr i'w fab, F. W. Ll. Edwards. Arwyddair y teulu yw
"DUW A DIWEDD DA."
Ni a awn ym mlaen etto i ddywedyd gair neu ddau am achyddiaeth teulu Cefnammwlch. Gwilym, ap Ioan, ap Ioan, ap Ioan, ap Gruffydd Ioan, ap Ioan (brawd Edmund Gruffydd, Esgob Bangor, 1686), ap Gruffydd Ioan, ap Ioan, ap Gruffydd Ioan, ap Ioan, ap Gruffydd, ap Dafydd Fychan, ap Ieuan o Benllech, ap Maredydd, ap Ieuan Goch, ap Dafydd Goch (1824), ap Trahaiarn Goch, ap Madoc, ap Rhys Gloff (Arglwydd Cwmmwd-Maen), ap Rhys Fychan, ap Rhys Mechell, ap Rhys Arglwydd, ap Gruffydd, ap Rhys, ap Tudor Mawr, Tywysog Deheudir Cymru.
Fel hyn yr hana teulu Madryn:-Meredydd, ap Einion, oedd tad Hywel y Fwyell, yr hwn a briododd Gwenllian, merch Gruffydd, ap Ednyfed Fychan, o'r hon y cafodd ddau fab-Ieuan a Gruffydd. I Ieuan yr oedd tair merch, sef Myfanwy, Gwenllian, ac Angharad. Angharad oedd gwraig Hywel, ap Grono, ap Ieuan, ap Grono o Hafod y Wern. Gruffydd â briododd Angharad, merch Tegwared-y-Beiswen, ordderch-fab i Llewelyn Fawr, Tywysog Gogledd Cymru, o'r hon y cafodd, (1) Einion, (2) Hywel, (8) Rhys, hynafiaid y Madryniaid o Fadryn, Llannerch, a Charngiwch. Yr oeddynt yn hanu o Elphin fel y canlyn—Elphin, ap Gwyddno, ap Cawrdaf, ap Gorboniawn, ap Dyfnwal Hên, ap Edyn, ap Macsen Wledig, ap Llewelyn, ewythr Elen Llwyddawg. Elin, merch Huw Wynne, o Benarth, yn Eifionydd, oedd fam i Love-Parry, Ysw., tad Love-Parry, Ysw., o