Benarth, tad Margaret, mam y diweddar Syr LoveParry, a nain Syr T. D. Love-Jones Parry (Elphin ap Gwyddno), o Fadryn.
Rhoddwn eilwaith achau Carreg, sef Rhys, ap Tewdwr Mawr, Tywysog y Deheubarth. Gruffydd, ap Rhys, ap Tewdwr. Rhys Gloff a briododd Gwerfyl, merch Maelgwn, ap Cadwallon. Madoc, ap Rhys, a briododd Tanglwst âch Gronwy, ap Einion, ap Iestyn, ap Gwrgant, Arglwydd Morganwg. Trahaiarn Goch, Arglwydd Committmaen, a briododd Gwerfyl âch Madoc, ap Meredydd, ap Maelgwn, ap Cadwallon, ap Elystan Glodrydd.
Y mae taflen achyddiaeth teuluoedd y Saethon fel yma:—Robert Wyn, ap Ieuan, ap Robert, ap Hywel, ap Gruffydd, ap Dafydd Fychan (o Gefnammwlch), ap Ieuan, ap Maredydd, ap Ieuan Goch, ap Dafydd Goch, ap Trahaiarn Goch o Leyn, ap Madoc, ap Rhys Gloff, ap Rhys Fychan, ap Rhys Mechell, ap Rhys Arglwydd, ap Gruffydd, ap Rhys, ap Tewdwr Mawr. Peis-arfau Rhys, ap Tewdwr, oedd Llew-Melyn-yn-yMaes-Coch. Mam Robert, ap Ifan, oedd Elizabeth, merch Sion Bodwrdda, ap Sion, ap Meredydd Fychan. Mam Robert, ap Hywel, ap Gruffydd, oedd Margaret, merch Rhys, ap Hywel, ap Madoc, ap Ieuan, ap Einion, ap Gwgan, ap Merwydd, ap Collwyn, penaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd.
Yn perthyn i hen deulu Bodwrdda yr oedd Elis Elis, Ysw., o'r Ystumllyn, yr hwn a briododd Mably, merch William Lewis Anwyl, Ysw., o'r Parc, Llanfrothen. Owain Elis, Ysw., o'r Ystumllyn, a briododd Elizabeth, merch John Bodwrdda. Bu John Wyn, Bodwrdda, yn Sirydd yn 1584. Huw Bodwrdda yn 1606, a John Bodwrdda yn 1630.
Achau Methlem oeddynt, Gruffydd, ap Morys, ap Gruffydd, ap Ifan, ap Sion Carreg, ap Dafydd, ap Ifan, ap Dafydd Goch, ap Trahaiarn Goch.
Ac yn olaf, ni a grybwyllwn ychydig o hen achau teulu y Trygarn, sef Rhisiart Trygarn, ap Robert,