Diamheu fod y rhan fwyaf o lenorion ein gwlad wedi gweled, a gwerthfawrogi y darluniau godidog yng ngweithiau y naturiaethwr a'r hynafiaethydd Thomas Pennant, Ysw., o'r Downing; a dichon y bydd yn syndod ganddynt glywed mai Moses Griffith, Trygarn, plwyf Bryncroes, gerllaw Sarnfeyllteyrn, a wnaeth y rhan fwyaf o honynt, yn ogystal â'r rhan luosocaf o'r rhai a brydferthent Balas y Downing. Un o forwyr enwocaf Prydain Fawr yn ei ddydd oedd Timothy Edwards, disgynydd o deulu hynafol ac anrhydeddus Nanhoron. Rhydd y Llyngesydd Byron y ganmoliaeth uwchaf iddo. Huw Ellis a enwogodd ei hun fel athraw mewn mesuroneg yn Ysgol Mynytho, gerllaw Llanbedrog, lle y dysgodd lawer o Fôr-gadbeniaid yn y ganghen hòno, fel y gwnaeth Mr. Jenkins, diweddar Athraw Ysgol Rammadegol Bottwnog, coffa da am ei enw. Mawr ddylai fod ein parch tuag at ein Hathrawon. R. Griffith (Patrobas), Penymaes, Nefyn, oedd fardd ieuanc tra gobeithiol. Hyderwn na fydd i famau byth esgeuluso ei gyngor rhagorol yn y pennill canlynol:
"I'r plant rhowch addysg wir,
Yn fore, famau tirion;
Na theflwch wenwyn pur
I lygad clir y ffynhon!
Y ffrwd ä'n ffynhon draw,
Gwybyddwch i'ch esiamplau
Fod yn yr oes a ddaw
Yn wenwyn i eneidiau."
Charles Marc, y bardd dall, brodor o Leyn, ydyw awdwr yr emyn:—
"Teg wawriodd arnom ddydd,
A welwyd gynt trwy ffydd,
Gan rai sy'n awr
O'r cystudd mawr yn rhydd," &c.
William Ellis Jones (Gwilym Cawrdaf), Tyddyn Shon, plwyf Abererch, oedd yn argraphydd, yn ddar-