lunydd, ac fel y cyfryw yn frâs-linellydd unwaith i foneddwr o Ffrainc, yn llenor da, ac yn un o'r beirdd goreu.
Gan fod rhai yn dywedyd fod Richard Robert Jones (Dic Aberdaron), yn brydydd, caiff ei enw yr anrhydedd o ymddangos ym mhlith y beirdd, er mai fel ieithwr mewn gwirionedd yr enwogodd Dic ei hun. Dywedir y gwyddai bymtheg-iaith-ar-hugain! A rhoddir eu henwau i lawr. Ond ai tybed ei fod yn gwybod un iaith yn iawn?
Yr oedd Lewys Daron, yr hwn a flodeuai o 1580 hyd 1620, yn gywyddwr campus.
Bernir mai y Parch. W. Owen (William Lleyn), oedd brif fardd ei oes, na chyfododd neb cyffelyb iddo yng Nghymru hyd Goronwy, ac nad oedd dim na wyddai. Efe oedd athraw barddonol yr Hybarch Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, yr hwn a wnaeth gyfieithiad mydrol o'r Psalmau i'r iaith Gymraeg:
"Colli'r Tir yn wir a wnaf,
Chwi a ellwch na chollaf."
Owain Lleyn, o Bodnithoedd, perthynas agos i Ellis Owen, Cefn-y-meusydd, oedd yn llenor diwylliedig, ac yn fardd o'r radd uchaf.
"Galar drwy'r ardal a roes,
Ddyn anwyl, ddwyn ei einioes."
John Roberts (Ioan o Leyn), genedigol o'r Foel Gwynus, plwyf Pistyll, oedd englynwr nodedig feistrolgar; ac un o'r llenorion mwyaf manwl oedd Wm. Rowlands (Gwilym Lleyn), fel y dengys ei draethawd ar "Lyfryddiaeth y Cymry."
Evan Pritchard (Ieuan Lleyn), o Fryncroes, ydyw awdwr yr emyn:—
"Y cysur i gyd,
Sy'n llanw fy mryd,
Fod genyf drysorau
Uwch gwybod y byd," &c.