Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoddwn y Rhestr ysblenydd hon yn Ardderchog Golofn Talentau Lleyn, gwlad yr Awen, a noddfa enwogion. Ond er ein bod wedi enwi lluaws sydd wedi anfarwoli eu hunain, ac er fod genym "gymmaint cwmwl tystion," etto y mae amryw, cofier, o enwau eraill a allesid roddi yn y Golofn mewn llythyrenau breision.

Cantref y Gwaelod.

DICHON nad oes yr un enw yn fwy hysbys, nac ychwaith efallai wedi rhoddi mwy o drafferth, ac achosi cymmaint o ddyryswch i'r Hynafiaethwyr Cymreig na Chantref y Gwaelod. Ac ysywaeth, mai ychydig o lenorion ein gwlad sydd yn hyddysg yn y pwnc. Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu fod un o bob cant o drigolion Lleyn ei hun yn gwybod dim am dano, er ei fod, nid yn unig yn un o'r enwau mwyaf pwysig mewn perthynas i hynafiaeth y lle, ond hefyd yn un o hynodion penaf Cymru. Gresyn na chaem fwy o gefnogaeth oddiar law ein cydwladwyr i dderbyn addysg yn lle anwiredd, ac i wrandaw ar lais eu ffyddlawn athrawon, yn lle treulio eu bywyd gwerthfawr yn ddim gwell nag aberth ffyliaid i anwesu cyfeiliornadau afresymol gau-brophwydi yr oes.

Geiriau tra adnabyddus i bob Cymro ydyw Cantref a Chummwd, ac y maent yn enwau sydd yn dal cyssylltiad â phob talaeth yng Nghymru erys cannoedd lawer o flynyddoedd, ond nid pob Cymro sydd yn deall beth ydynt,—efallai yr ysgrifenai Cantref yn lle Cummwd, a Chummwd yn lle Cantref, ac os beiddiai rhywun ddywedyd wrtho ei fod wedi gwneyd camgymmeriad, byddai yn cael ei daraw â syndod. Ga hyny, er ein bod braidd wedi cyffwrdd mewn rhan 'r gair Cwmmwd o'r blaen, rhoddwn eu dadansoddiad,