neu eu dadgymmaliad, a'u cyssylltiadau arwyddocäol i lawr, fel na fyddont yn oestadol "yn llythyren farw" i'n cenedl. Cantref[1](Hundred, hund-cant, red =cyfrif,)=cant + tréf=càn+tref. Swnir y gair hwn yn "hwndrwd" mewn rhai manau, ond amlwg mai llygriad yw o'r Seisnaeg. Etto, Cwmmwd=cym=cyd, mwd=bod. Têg a'r darllenydd fyddai dywedyd wrtho fod "trêf" yn y gair "Cantref" bron yn gyfystyr â "bod" yn "Cwmmwd" yn ol cystrawen a chyflëad llythyrenol yr Hen Gymraeg, sef trèf=cartref, bôd=tŷ. Beth bynag, dyna yr ystyr agosaf y gallwn ddyfod ato mewn geiriau cyffredin. Cf., Trefodfel, Hendref, Treflys, Feirdre, &c., Bodwrdda, Bodfuan, Bodfari, Bodferin, Bottwnog, Bodegroes, Bodedern, &c.
Mewn gwirionedd, geiriau perthynol i hynafiaeth Cymru yw "Bôd," "Tréf," a "Chaer." "Bod" oedd tŷ y cadlywydd ar ol ei oresgyniad a'i ymsefydliad cyntaf yn y wlad. "Trêf" oedd pob tyddyn a osodai allan i'w ddeiliaid. "Caer" oedd y mur, neu yr amgauad oddi amgylch y tŷ, neu ei wersyll. Pan y cyfrifid can tyddyn i'r "Bôd" uchod, gelwid ef yn "Gantref." Pan y rhenid y "Gantref" yn ddwy, gelwid pob adran yn "Gummwd," sef "Cyd-fôd" â'r "Bôd" a grybwyllwyd. Gwêl y Cymreigwr, gan hyny mor athronyddol ac ysblenydd yw ei iaith pan y chwilir hi allan,
Yn awr ni a awn heibio i arferion, defodau, gwladwriaeth, a chyfreithiau "Fear-Fearainn" y Bôd," y "Ben-trêf," a'r "Gantref," ac a symmudwn ym mlaen i roddi ychydig o hanes rhan fawr o dalaeth Lleyn, yr hon sydd erys canrifoedd lawer wedi cael ei gorchuddio gan y môr, ac a elwir yn
- ↑ Nid priodol treiglo cantref o cant=cylch + rhef=tew, am ad yw ei gyd-berthynasau (cognates) yn dystion; ac yn wir y mae y gair Canton ei hun, yn ol y Middle Age Writers, yn golygu can=100 + ton=tun=dun=town=tref=cartref.