gyffredin Cantref y Gwaelod, sef "Cantref" o'r trefniant a'r desgrifiad a roddwyd genym yn flaenorol. Gallwn osod i lawr fel golygiad damcaniaethol fod yr iseldir crybwylledig yn gorwedd rhwng Ynys Enlli âg Afon Erch. Nid gormod fyddai dywedyd fod cymmaint a hyn o hono yn perthyn i Leyn, er nad oes amheuaeth na chyrhaeddai y Gantref can belled a Sir Aberteifi. Nid awn yma i siarad am y tir, neu yn hytrach yr holl dir a orlifiwyd yn yr hen amseroedd gan y môr ar yr ochr Orllewinol i Gymru, fel y mae ymchwiliadau Morwriaeth a Daeareg yn profi, gan mai digon i gwblhâu ein hamcan fydd rhoddi ychydig o'r manylion ydynt gyssylltiedig â'r fangre a nodwyd genym.
Ymddengys mai gweirglodd-dir cnydfawr oedd y Gantref gyfoethog hon, yn cael ei choroni â blodau, rhosynau, caeau gwenith, gerddi, perllanoedd, a gwinllanoedd, dolydd coediog a thra chysgodol, lle y porai y gwartheg blithion yn y werddlas feillionog, yn swn peroriaeth yr eos o'i phrysglwyni blodeuog, tra y boddid melodedd ei chân weithiau gan frêf yr ých, a phryd arall gan weryriad y meirch oeddynt gyda'u hir-fwng yn ymlwybraw mewn tangnefedd a phob tawelwch, ym mhell oddiwrth ystormydd corwyntoedd copäu oer mynyddoedd noethion y Wyddfa. Nid rhyfedd fod traddodiad yn dywedyd y byddai y Beirdd yn cael eu hysbrydoli ar ben Cadair Idris, pan adgofiom fod y fath olygfa baradwysaidd yn ymagor o'u blaen. Ac ni fydd y frawdoliaeth farddol yn synu dim pan ddeallont mai yn y cyffiniau yma y cododd Prif Fardd Cymru, ac mai Brenhin-Fardd (Poet Laureate) y Gantref oedd efe, a'i fod yn cael ei alw yn Daliesin Ben Beirdd.
Yma yr oedd dinas ardderchog Caerwyddno, lle yr oedd palas (Bôd) tywysogaidd Gwyddno Garanhir (hir-goes, neu hir ei ben), brenhin y Gantref, yr hwn oedd eu "tighearna," ac a elwid Dewr Arth Wledig, ap Cawrdaf, ap Gorbonion, neu Gorfyniawn, ap