Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyfnwal Hen (brenhin Gwent), ap Ednyfed, neu Edyn, ap Macsen Wledig; a theilwng yn y fan yma fyddai crybwyll mai disgynydd o Wyddno, brenhin Cantref y Gwaelod yn y Bummed Ganrif ydyw Syr Love—Jones Parry (Elphin ap Gwyddno), etifedd presennol y Madryn; a Bardd Llys Elphin, mab yr hen frenhin uchod, oedd Taliesin Ben Beirdd.

Dywed y Trioedd fod hefyd yn y Gantref "un ddinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon—arWysg," y rhai oeddynt yn ddiau yn dwyn ym mlaen Drafnidiaeth gyda gwahanol barthau y byd, yn enwedig gyda'r cydfrodorion yn Arforig (Llydaw). Gallwn feddwl fod yma wahanol afonydd, ond y prif borthladd oedd "Hafan Gwyddno," i'r hwn y byddai y llongau yn nofio i fewn gyda'u hwyliau gwynion rhwng y coedydd gwyrdd—ddeiliog, ac yn myned allan gydag afalau, mêl, ac aeron peraidd yn llongeidiau drudfawr o'r Gantref. Ystyrid hwn yn un o brif borthladdoedd Cymru—efe oedd "mansio"=arosfan, neu "Khan" ddymunol hen deithwyr ffyrdd dyrys y Werydd, a'u κατάλυσις yn amser yr ystorm. Gelwid ef gan rai "Mansua," oddiwrth manus, ysywaeth, am fod ei gywreinrwydd yn dangos cymmaint o fedrusrwydd a chelfyddyd y llaw ddynol, fel y dangosai hefyd, yn ol pob tebygolrwydd, holl drefniant caerau a phyrth y Gantref orenwog hon, yn enwedig y "Gwrthglawdd," neu'r mur cadarn a gyfodasid rhyngddi a'r môr (gan fod perygl y gorlifai i fewn i iseldir y rhandir), yn ogystal a'r rhag—furiau, fel y gallwn dybied, oeddynt ger glanau yr afonydd i gadw i fewn eu cynnwysiad, pan y ceuid dorau yr agendor oedd ar eu genau yn erbyn llanw'r môr, ac fel y rhedai y gronfa allan, pan yr agorid y drysau (gates) yn amser trai. Cymmaint oedd cyfrifoldeb y dyn oedd i edrych ar ol y dorau hyn fel nad oedd neb a wnai y tro i lanw y swydd ond Tywysog. Y porthor olaf y sonir am dano, ac fe sonir am dano byth, oedd