Seithenyn (ap Seithyn Seidi), yr hwn a ddesgrifir yn у Trioedd fel un o dri "Charnfeddwon Ynys Prydain." Yn ei drythyllwch a'i gyfeddach annuwiol anghofiodd gau y pyrth crybwylledig, a dylifodd y môr ar unwaith i fewn, fel y mae yn ddyfrllyd fedd ar wyneb y Gantref hyd y dydd heddyw! Diangodd rhai o'r trigolion o'r dinystr i'r cymmydogaethau cyfagos, a daeth rhai o honynt i Leyn, fel y dengys ach—restr teulu y Madryn.
"O, ddylif! O, ddialedd!!
Mae'n flin bod ar fin dy fedd."
Er fod Meyrick yn ei "History of Cardigan" yn dweyd fod y gorlifiad wedi cymmeryd lle yn 3591 o oed y byd, neu dros bedwar can mlynedd cyn Crist, mwy na thebyg fod yr uchod wedi digwydd yn y bummed ganrif (A.D.), neu ddechreu y chweched.
Gelwid un "cylch crwn o furiau" yn y Gantref yn "Eglwys y Rhiw." Gweler Yates ar y "Goedwig Danforawl." Ac ymholer â'r morwyr am olion y muriau yn y môr.
Gair am y Boblogaeth.
́NID yn anfynych y byddys yn clywed ysgrifenwyr a darllenwyr yn clodfori dychymyg—teimlant ei swyn, a rhifant fydoedd ei dlysni. Anhawdd dyfalu faint o'i ffawd a roddai y bardd lawer pryd am ddychymyg da. Nid ydym wrth ddywedyd hyn er hyny yn dibrisio dychymyg, na breuddwyd chwaith, os bydd yn dda. Ond at hyn yr oeddym am arwain eich meddwl, pe byddai coleddwr ac edmygwr dychymyg yn eistedd i lawr yng nghadair ei holl ddylanwadau, a bod mor garedig a dywedyd wrthym trwy nerth ei ddychymyg goreu, pa un ai ychydig, ynte llawer yw rhifedi pobl Lleyn. Ysywaeth y buasai yn