trigolion cyntaf y wlad hon? Yng ngwyneb ffeithiau hanesyddol gorfodir ni i atteb y gofyniad uchod yn y nacäol, os ydym am ddilyn deddfau âch-enwol. Etto, fel y dangosasom fod y Celtiaid yn gorfod byw mewn amddiffynfa yn Cheltenham, felly yn y fan hon. Yr hyn a ellir ei gasglu oddiwrth y gwirionedd hwn ydyw, fod ganddynt eu gelynion. A phwy oedd y gelynion hyn? Anwybodus yw y dyn sydd yn meddwl mai'r Cymry oedd etifeddion hynaf y Dywysogaeth. Cyn deall rhaid dysgu. Felly, os chwiliwn i fewn i drysorfeydd penaf yr oesoedd gynt (nid "Drych y Prif Oesoedd," cofiwch), ni a gawn fod yma drigolion gannoedd o flynyddoedd o'u blaen hwy. Enw y trigolion hyny oedd Cwnwys, fel y llythyrenir y gair gan rai dysgedigion. Gwêl Herodotus, ii. 33; ac ni a obeithiwn nad oes raid i ni hysbysu darllenydd yr oes hon mai paganiaid oedd y Cwnwys yma; ond nid awn mor bell a rhai awdwyr i feddwl eu bod yn addoli y "ci," neu ei ddelw, er y dychymygir fod eu henw wedi cael ei gymmeryd oddiwrth y creadur gwasanaethgar hwn, ac y mae wedi ei droi o'r Groeg genym ni i'r rhifeb luosog yn yr iaith Gymraeg, er mwyn dangos hyn. Os bugeiliaid oeddynt, diau fod y "cwn" y creaduriaid mwyaf defnyddiol yn eu gwasanaeth, a gallasent hwythau fod y bobl gyntaf i wneuthur defnydd o gyfrwysdra, callineb, ffyddlondeh, a dewrder "y ci;" oblegyd nid ydym yn cael fod y bugeiliaid yn gwneyd hyny yn yr oesoedd boreuaf, gan mai creadur gwyllt yw y ci wrth naturiaeth. Ond ein barn ni yw, mai nid Cwnwys ddylid gyfieithu, ond Cynwys, neu Cynwyr, am mai hwy oedd trigolion cyntaf y wlad. Ni wyddys hyd yn hyn pa iaith oedd y bobl yma yn siarad; ond y farn fwyaf gyffredin yw mai yr un oedd a iaith y Basciaid (Basque), yr hyn sydd yn myned ym mhell i brofi mai yr un bobl oeddynt ar y dechreu.
Yn awr, fel yr oedd y llwythau Celtaidd yn dirwasgu yn eu blaen tua'r Gorllewin, yr oedd yn rhaid iddynt oresgyn pob goror newydd, a chymmeryd meddiant