o'r tir trwy rym yr "Ordd a'r Fwyell." Pwy all ddesgrifio faint o dywallt gwaed fu yn y parthau hyn yn oes y ddaear! Oblegyd nid yw yn naturiol i ni gredu i'r Cynwys diniwaid adael i'w goresgynwyr ladrata eu tir, a'u hysbeilio o'u meddiannau heb wrthsefyll yr ymosodiad hyd eithaf eu gallu, gan mai ysglyfaeth y cleddyf yw newyn. Arferiad y byddinoedd ar ol gorchfygu oedd codi amddiffynfa. Cawn y Rhufeiniaid yn gwneyd hyn, a'r Saeson yr un modd. Felly y Celtiaid, a'u meibion y Brutaniaid. Felly hefyd yr Amddiffynfa hon yng nghae Meillionydd. Beth ydyw mewn rhyw ystyr ond cof-golofn o fuddugoliaeth Geltaidd ar y Cynwys beth bynag yn rhagor. Y mae yr Amddiffynfeydd hyn wedi cael eu gwneyd i gyd o bridd, tra y mae y rhai diweddaraf a elwir Brutanaidd, neu Brydeinig o gerryg-beth bynag a ddywedir, y dull hynaf o'u gwneuthur oedd o bridd; ac am y rheswm yma yr ydym am ddangos y gwahaniaeth. Gwnaed yr Amddiffynfa dan sylw i gyd o bridd, a galwasom hi yn Wersyllfa=(gwèr=gweryd=pridd-ar-bridd=gwàr) + syllfa=lle-i-syllu=gwylio. Byddid yn gwneyd yr Amddiffynfeydd hyn mewn lle amlwg, yn gyffredin ar ben bryn, fel y gallesid gweled y gelyn yn agoshâu; ac yr oeddynt mor eang, fel y cynnwysent y rhan fwyaf o'r milwyr, os nid yr oll. Yma y byddent yn ymgynghori, yn cynllunio, yn coginio eu bwyd, ac yn cysgu y nos. Ymddangosai pobpeth oddiamgylch fod y trigolion yn ymddiried mwy yn eu nerth eu hunain ac yn nghadernid eu Gwersyllfa nag yng ngonestrwydd eu cymmydogion. I selio eu hymgyrch hefyd, efelychent gynllun cylchynog teml y Derwyddon yng nghelfyddydwaith eu diogelfa. Felly yn hollol y mae yr olygfa yn ymagor o'n blaen yn holl nodweddion yr Amddiffynfa hon. Saif ar fryn tebyg i lwyfan, gwyneb (front) yr hwn sydd serth a llawn olion llochesau rhag yr ystorm. Mae cylch y Wersyllfa yn mesur tua thri-chan-llath ar yr esgynlawr; a gallwn yn
Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/37
Prawfddarllenwyd y dudalen hon