gysgu, yr hyn sydd yn rheswm cryf arall dros fod y bugail, yn unol â deddfau natur, â'i Wersyll ar y bryn, a'i gastell yno hefyd rhag y gelyn. Fel hyn, yr ydym yn cael mai yn y Fugeiliaeth y mae mabandod ein cenedl ni fel gwahanol genedloedd eraill. Ond i ddychwelyd oddiwrth yr olwg fugeiliol ar yr Amddiffynfa hon, ni a awn ym mlaen at y milwrol.
Gan nad ydyw enw cyntefig y bryncyn, ar yr hwn y mae y Wersyllfa gerllaw Meillionydd, wedi ei drosglwyddo i lawr i ni,[1] mae un fantais yma nad oedd genym yno; oherwydd fe elwir y tŵyn hwn yn "Fynydd-yr-Ystum;" ond methwn gael un cynnorthwy i ddeongli ei ystyr oddiwrth feirdd a llenorion yr oes ddiweddaf. Gresyn na fyddai gwell amcan gan yr Eisteddfod na phabell lawn, llogell lawn, a llenyddiaeth wag! Gwyddom fod Ystum yn enw personol a thra hynafol yn Eifionydd, ond nid oes hanes na son am neb fu yn cael ei adnabod wrth yr enw hwn yn Lleyn. A pheth arall, âg i ni gymmeryd Cystrawen iaith i ystyriaeth, y mae y Bannod "yr" sydd o flaen "Ystum" yn enw Mynydd yr Amddiffynfa dan sylw efallai yn erbyn y golygiad hwn. Gan hyny, arweinir ni i wneuthur ymofyniad am ystyr yr enw mewn rhyw gyfeiriad arall.
Fel yr awgryma y Bannod sydd o'i flaen, nid oes amheuaeth nad yw y gair yn cyfeirio at ryw "ystum"=amlygiad tebyg i amnaid=ysgogiad (manœuvre)= ymarferiad milwrol=rheith-weithred=dirgel fwriad câd ymgyrch, neu rywbeth o'r fath yn neillduol ar ei ben ei hun. Pwy a ŵyr na allasai y bryn hwn fod yn arsyllfa i warchodlu y cwmmwd y perthynai iddo i roddi arwydd fod llongau y gelyn yn ceisio am y làn? Ac os tiriai, nid oedd neb yn fwy tebyg o sefyll yn ei erbyn na hwynt-hwy. Beth fyddai yn fwy naturiol nag iddynt ffurfio cynlluniau, a gwneuthur
- ↑ Yr ydym erbyn hyn wedi cael enw yr Amddiffynfa yn ymyl Meillionydd, sef "Lleiniau-yr-Ymryson."