y defnydd goreu o bob math o ystranciau ac "ystumiau" i gadw yr ysbeilwyr draw? A phan y byddai teyrnwialen awdurdod yn cael ei dylanwad, a heddwch dros amser yn teyrnasu, nid yw yn beth annichonadwy nad oedd gwroniaid y fwyell a'r waywffon yn dysgu eu gilydd yma i drin arfau rhyfel, ac mai llawer fyddai dull a rhif eu "hystumiau." Os rhoddwn glust-wrandawiad, fel y dylem, i draddodiad y gymmydogaeth, fe sonir wrthym am ddau ddyn gorchestol yn perthyn i Fynydd-yr-Ystum, a'r cyntaf a grybwyllwn am dano yw Odo. Dangosir ei fedd i ni yn yr Amddiffynfa, yr hwn sydd yn mesur tuag ugain lath o hyd, a phump o lêd! Gelwir ef "Bêdd-y-Cawr." Ond nid ydym heb feddwl fod camgymmeriad wedi ei wneyd yn yr hen amseroedd rhwng enw Odo yn yr ystyr yma âg Odin yr Ellmyn ar y Cyfandir. Cyfrifid Odin yn gawr, yn brydydd, yn offeiriad paganaidd, yn filwr, a brenhin. Credid y gallasai gyflawni gwyrthiau, ac oherwydd hyn yn ddiau yr ystyrid ef yn gawr. Dysgai ei ganlynwyr fod dedwyddwch yn eu haros os syrthient ar faes y gwaed. Hawdd y gallasai y chwedl hon ddyfod trosodd gyda'r ymfudwyr Celtaidd. Beth bynag am hyn, sicr yw fod Odo yn enw diweddarach na'r Amddiffynfa hon, a bod yr anwybodus wedi cymmeryd ei enw yn ofer am enw traddodiadol y cawr dychymygol a elwir "Samson,"[1]sef arwr Gwersyllfa "Mynydd-yr-Ystum." Chwilir ym mhobman am eirwiredd yr hen ddiareb, "Ym mhob gwlad y megir glew." Ymffrostia Groeg yn ei Thartar, Rhufain yn ei Romulus, yr Aipht yn ei Rameses, Ffrainc yn ei Napoleon, yr Iwerddon yn ei Ho'Brien, Lloegr yn ei Choncwerwr, yr Ellmyn yn ei Odin, a Chymru yn ei Harthur Gawr.
Yr ydym yn cael un o'r enw Samson yng nghofrestr Saint Ynys Enlli, ond nis gallasai fod un cyssylltiad rhwng y Sant hwnw a "Samson" Amddi-
- ↑ Adnabyddir ef hefyd wrth yr enw "Idio Gawr."