Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffynfa "Mynydd-yr-Ystum," lle y dangosir i ni garreg fawr ac afluniaidd yn sefyll ar ei phig, neu â'i phegwn yn ddwfn a diysgog yn y ddaear, yr hon a elwir yn "Garreg Samson." Gwelir tua phump o dyllau ynddi, os nad rhagor, a cheisir gan draddodiad ein darbwyllo i gredu mai ol pum bys rhyw "Samson" ydynt, wedi eu selio byth oddiar y foment y soddodd efe ei law nerthol i fewn i ddefnydd caled y maen, gan ei daflu mewn amrantiad o glogwyn "Uwchmynydd" fel saeth drystfawr i goryn "Mynydd-yr-Ystum," nes crynu y ddaear, er dychryndod ac arswyd i bawb o'i gydfarwolion! Ond er fod natur y garreg yn ddigon tyllog a charpiog, nid yw hyny yn brawf o gwbl i'r fath haeriad. Ar ochr y tŵyn, ychydig i lawr i'r Gorllewin o'r Amddiffynfa, bu carnedd a elwid "Barclodiaid-y-Gawres," yr hon a gludwyd oll i ffwrdd, gan feddwl cael ynddi drysor, ond fel y dywedodd un wrthym, a fu ei hun wrth y gwaith, ni chafwyd dim, ac ni welwyd un math o olion gwerth eu crybwyll. Os oes traddodiad fod trysor yn rhywle, ym "Medd-y-Cawr" y mae; oblegyd yr oedd yn unol â choel-grefydd yr hen oesoedd i gladdu y cyfryw gyda'r trancedig, yn ogystal a'i arfogaeth.

Gan y caiff "Capel Odo" sylw priodol genym yn nes ym mlaen, cyn symmud ein camrau oddiwrth y fangre hynod hon, nis gallwn lai na rhyfeddu wrth olrhain gwaith y dwylaw sydd yn llwch erys cannoedd o flynyddoedd, a chwildröadau ystormus eu bywyd. Pa un a oedd ganddynt un pelydr bychan o oleuni yr Ysgrythyr yng nglyn â Samson, gŵr Duw, mewn traddodiad, wedi dod i lawr iddynt trwy gyfrwng eu tadau, ynte breuddwyd chwedloniaeth ar ol hyny yw y cyfan, nis gwyddom. Ond sicr ydym yn ein meddwl na chlywsant erioed son am IESU GRIST.