"Castell Crwn."
MYR lowené ol an býs, trevow a brys, Castilly brâs hag huchel="Mòr llawen yr holl fyd! trefau o bris, Cestyll bras ac uchel." Saif y Castell hwn ger Dindywydd="Din"=dinas=amddiffynfa, a "tywydd." Yr ydym wedi rhoddi desgrifiad o'r drêf hon, a pha beth a ddaeth o honi yn flaenorol. Ymddengys oddiwrth ystyr wreiddiol y gair Din, neu dinas mai amddiffynfeydd, mewn gwirionedd, ar y cyntaf oedd yr hyn a alwn ni yn awr yn drefi. Cadarnhâ Hynafiaeth hyn o'r dechreu i'r diwedd. Nid yw y gair "Castell"=Llydawaeg,=kastel Gwyddelaeg,=caiseal Gaelaeg,=caisteal, Manawaeg,=coshtal, ond cymhariaethol ddiweddar, ac y mae yn yr holl dafod-ieithoedd Celtaidd wedi ei fenthyca o'r Lladin castellum, ffurf fychanig castrum=amddiffynfa. Yr enw hynaf ar y cyfryw yn iaith y Prydeiniaid oedd "Din,' "Dun," "Dinn," "Tun," a "Duan." Felly, yr ydym yma yn dyfod ar draws olion Rhufeinig mewn iaith; ond barnwn fod yr enw wedi llithro i'r Gymraeg lawer o flynyddoedd ar ol gwneuthuriad y "Castell" hwn. Diau mai ei enw cyntaf oedd Din, ac oddiwrtho ef y cafodd Dindywydd ei henw, a darfu i'w thrigolion yn eu tro ei alw yntau yn "Gastell," rhag y byddai yn ddi-enw, gan eu bod wedi lladrata yr unig enw oedd arno. Ond chwareu têg i Dindywydd, nid hi oedd y gyntaf, nac ychwaith yr olaf a wnaeth hyn. Cf., Dunmear=Dunmawr; Dunvedh=Din-Amddiffynfa-y-vedh=bêdd; Tinsylwy= Amddiffynfa-y-Sylwi; a Dinllaen.
Nid ydym am wadu nad yw y safle yma yn noeth ar dywydd garw, ac fe fuasem yn barod i gymhwyso ystyr felly i Dindywydd, onibai ein bod yn credu fod genym ei well. Yn y rhanau yma o'r wlad, yn ogystal a manau eraill ysywaeth, y mae hen ddywed-