arach o lawer, a phrês yn ddiweddarach na hyny. Hefyd, y mae yn deilwng o sylw mai yn y rhanau Dwyreiniol o Brydain, o fewn cyrhaedd i Roegiaid Marseilles, yr oedd yr arian uchod yn gyfwng trafnidiaeth, ac nid yn y parthau Gorllewinol yma. Barnwn fod amddiffynfa "Castell Crwn" yn hynach na'r cyfnod y cyfeiriwn ato. Y mae oes geiriad ei hên enw (Din neu Dun) yn dyddio ym mhellach yn ol. Ond os gellir cael gafael ar arian o dan y "garreg" grybwylledig, gwneir ei wneuthuriad mewn amser diweddarach.
Efallai, er y cwbl, fod y werin wedi cael eu camarwain yng nghylch ystyr a gwasanaeth y "Garreg Arian." Tynodd y pantle sydd ar ei chlawr, neu ei bwrdd, ein sylw i wneuthur y syniad hwn. Gall mai llaw ddynol fu yn ei chafnio, a'i bod unwaith wedi bod o wasanaeth derwyddol i dderbyn y blwydd—dâl am y marwor cyssegredig o "Bealteine;"[1] ac i gadarnhâu ein golygiad, yr ydym yn cael tair carreg arall gerllaw yn y ddaear ar eu penau, y rhai sydd yn ddigon tebyg i dair colofn Cromlech, heb fod ym mhell oddiwrth borth yr amddiffynfa, yr hyn sydd yn gosod allan yr arwydd cyntaf a gawn yn Hynafiaeth Lleyn fod Crefydd y wlad, er mai paganaidd oedd, yn gyssylltiedig â'r Llywodraeth. Gallwn ddarllen oddiwrth ei gynllun nad oedd y milwr yn gwneyd ei wersyllfa ond o dan nawdd y derwydd, ac yr oedd bywyd y derwydd, er mor urddasol, o dan nawdd y deyrnwialen.
- ↑ Nid yw "Beal" yn Bealteine Belltaine yn tarddu o בעל=meistr, ond o Βελα=haul, ac ystyr "teine"="taine" ydyw tân.