drwyddo a gwyntoedd y nos ystormus yn ei gyrru; yn bell, yn wyw a du y safant, heb ddeilen yn ysgwyd yn y gwynt."
Dichon, wrth gwrs, nad yw'r cerddi mor hen ag y mynnai rhai, ond pwy bynnag a'u canodd, yr oedd yn gynefin â Natur wyllt. Ni allasai beirdd y cerddi meirwon i'r bugeiliaid a'r bugeilesau a'r enwau Groeg a Lladin fyth mo'u canu. Ni welodd y rhai hynny Natur ei hun, a digon ganddynt ail adrodd pethau a ddywed y beirdd clasurol amdani. Prydyddiaeth felly oedd prydiaeth Saesneg oes Macpherson, ac y mae ei gerddi cynnar yntau cyn syched â dim ohoni. Ond am awdur y cerddi hyn, nid ail llaw oedd ei wybod aeth ef am bethau naturiol, a cheir yn ei ddisgrifiadau a'i gyffelybiaethau fanyldeb a chraffter un a welodd ac a wyliodd. Sŵn byddin fel twrf llifogydd: "Cyffelyb eu sŵn i'r ffrydiau fil a gyferfydd yn nyffryn Cona, a hwy, wedi noswaith dymhestlog, yn troelli eu dyfroedd duon dan oleuni gwelw y lloer." Efallai fod ôl taclu ar ystori Agandecca, merch brenin Llychlyn, a laddwyd gan ei thad ei hun am rybuddio Fingal rhag brad y brenin, ac nid oes dim arbennig iawn mewn dywedyd ei bod hi cyn wynned â'r eira, ond pan ddywed y bardd—"Ymollyngodd hithau i lawr fel torch o eira, a lithro oddi ar greigiau Ronan,