llygaid arall i ganfod peth mor gyffredin? Buasai mwy o lewych ar ei gyhuddo o ddwyn cyffelybiaeth fel hon:
She came on his troubled soul, like a beam to the dark-heaving ocean, when it bursts from a cloud and brightens the foamy side of a wave. (Colna-dona.)
Oni chanodd prydydd o Gymro, ganrifau cyn oes Macpherson?—
Gwery fanon fanwl gwâr feddwl faith
Gorne gwawr fore ar för diffaith.
Ond hwyrach mai oddi ar Gynddelw y dug Osian hi! Gwae feirdd gorau'r byd, namyn y cynaraf ohonynt, pwy bynnag ydoedd, petai peth fel hyn feirniadaeth. Efallai mai'r peth prydferthaf yn y cerddi yw cyfarchiad y bardd i'r haul:
Hast thou left thy blue course in heaven, golden-haired son of the sky? The west has opened its gates; the bed of thy repose is there. The waves come to behold thy beauty. They lift their trembling heads. They see thee lovely in thy sleep; they shrink away with fear. Rest in thy shadowy cave, O sun! let thy return be in joy. (Carric-thura.)
Dyma'r ffurf Wyddeleg a gyhoeddwyd ar gynnwys y darn uchod: