UN o'r meddylwyr mwyaf nodedig sy'n ysgrifennu yn y Ffrangeg yn ein hoes ni, yn ddiamau, yw Maurice Maeterlinck, ac y mae dywedyd hynny amdano yr un peth a dywedyd ei fod yn un o feddylwyr mwyaf nodedig y byd. Dywedodd rhai beirniaid, Tolstoi yn eu mysg, ei fod yn dywyll ac anodd i'w ddeall, ac y mae hynny yn wir am lawer o'i gerddi a rhai o'i ddramâu, megis "Pelleas et Melisande" a "Les Aveugles," cyn belled o leiaf ag y mae gweled eu pwrpas yn mynd. Gellir darllen "Pelleas et Melisande" lawer gwaith trosodd heb ddeall ei hystyr—dyna, beth bynnag, fy mhrofiad i—ac eto, ni wn i am ddim mor fedrus a gafaelgar â rhai rhannau o'r ddrama honno. Pe bernid ef wrth y gweithiau hynny yn unig, nid annheg fyddai dywedyd ei fod yn grefftwr medrus yn hytrach nag yn feddyliwr clir; ei fod yn gwybod i'r dim sut i gynhyrchu'r teimlad a fynno yn y sawl fo'n ei ddarllen, a hynny yn y dull symlaf yn aml, yn hytrach na'i fod yn gwneuthur i bopeth wasanaethu un diben deallus a chlir yn ei waith. Ond yn ei weithiau diweddarach, "Le Temple Enseveli" a "La Vie des Abeilles," y mae ef wedi llwyr newid, nid yn unig o ran dull, ond hefyd o ran
Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/135
Gwirwyd y dudalen hon