Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/136

Gwirwyd y dudalen hon

agwedd, os nad wyf i yn ei gam ddeall, ac y mae'r llyfr a eilw ef "Y Deml Gladd" ("Le Temple Enseveli") yn sicr yn waith lle y mae'r meddwl dynol yn aml i'w gael ar ei orau a'i gliriaf. Yn yr ysgrif hon, ceisir rhoi crynodeb o gynnwys y llyfr, nid am fod yr ysgrifennydd yn derbyn nac yn gwrthod ei ddysgeidiaeth, ond am ei fod yn ffrwyth meddwl grymus a chlir, ac ysbryd na byddai dyniolaeth ar ei cholled, beth bynnag, pe meithrinid rhagor arno. Rhennir y llyfr yn chwe rhan, dan y pennau a ganlyn: Cyfiawnder, Twf Dirgelwch, Teyrnasiad Mater, Y Gorffennol, Ffawd, Y Dyfodol. Amcan yr awdur, a siarad yn gyffredinol, yw cael allan pa beth sydd wybyddadwy i ddyn o'r hyn y sydd, ar un olwg, o leiaf, yn edrych fel pe bai'n ddirgelwch anwybyddadwy. A yw ef yn ei ymgais yn mynd yn rhy bell neu ynteu'n methu â myned yn ddigon pell, barned y darllenydd drosto'i hun.

Nid wyf i yn deall bod yr awdur yn gwadu Bod Duw, er ei fod yn gwrthod llawer o'r syniadau yr ydys yn gyffredin yn eu coleddu am Dduw. Wrth drin ar Gyfiawnder, dywed ei fod yn ysgrifennu i rai nad ydynt yn credu ym mod un barnwr hollalluog a di—ffael, yn gwylio ein meddyliau, ein teimladau a'n gweithredoedd; yn