Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/138

Gwirwyd y dudalen hon

effaith yr oeri a'r annwyd. Eto, nid yw etifeddiant yn cosbi odid ddim onid meddwdod ac anniweirdeb, ac ni bydd byth yn gwahaniaethu rhwng achosion y pethau hynny. Gallai tad fod wedi cyflawni mil o droseddau atgas, wedi llofruddio, bradychu, gwneud cam â'r diniwed ac ysbeilio'r tlawd, heb i'r troseddau hyn adael yr ôl lleiaf ar gyfansoddiad ei blant. Digon i'r tad fod wedi ymgadw rhag gwneud dim a allai effeithio ar ei iechyd. Nid yw etifeddiant moesol ychwaith ond ffurf ysbrydol y llall, ac y mae'r naill mor ddidaro a dall a'r llall. Eto, yn gyffredin, rhwng yr achos a'r effaith, rhwng deddf parhad yr hil a ffrwyth ei gweithrediad, fe fydd digon o gyfatebiaeth i beri i ni synio bod cyfiawnder mewn pethau allanol. Byddwn ninnau, fel ein hynafiaid gynt, yn dehongli'n syniadau yn ôl ein hewyllys, ond nid mor fanwl a chywir â hwy. Pan fo tebyg y bydd drygioni'n wasanaethgar i ni, byddwn yn galw amdano, yn enw y to a ddaw, yn enw dynoliaeth, yn enw ein gwlad; ond pan ddigwydd i ni anffawd fawr, ni welwn ni na chyfiawnder na duwiau yn unman. Y mae oddi mewn i ni ysbryd nad yw'n pwyso onid y bwriadau; oddi allan i ni, gallu nad yw'n pwyso onid y ffeithiau y sydd. Nid rhesymol i ni synnu na chymer y môr sylw yn y byd o ystâd enaid y dyn fo'n aberth