Diau mai'r darn â mwyaf o liw barddoniaeth arno yn y llyfr i gyd yw'r darn ar y Gorffennol. Egyr yr awdur ei draethiad ar y pwnc â'r paragraff a ganlyn, sy deilwng o'i ddawn ysgrifennu ar ei gorau:
Y tu ôl i ni, ymlêd ein gorffennol yn un olwg hir. Huna yn y pellter, fel tref wedi ei gadael yn y niwl. Dacw rai pegynnau yn dangos ei therfynau ac yn edrych i lawr arni. Ymgyfyd rhai gweithredoedd pwysig yn gyffelyb i dyrau, rhai eto dan oleuni, eraill ar hanner adfeilio, ac yn goblygu o dipyn i beth dan bwys angof. Dacw goed yn dadddeilio, darnau muriau yn dadfeilio, a hydau hirion o gysgod yn mynd yn hwy, hwy. Y mae popeth yno fel pe'n farw, heb symudiad yn y byd, amgen na'r rhith fywiocáu fydd ar y lle gan araf ymddatodiad ein cof. Ar wahan i'r bywyd benthyg hwn, sy'n codi o dranc ein hatgofion ein hunain, y mae popeth yno fel pe'n gwbl ddi-symud, fyth yn ddi-newid, ac fel pe bai rhyngddo a'r presennol a'r dyfodol ryw afon na ddichon dim ei thramwy. Eto yn wir, y mae'r cwbl yn byw, a hynny i lawer ohonom yn fwy angerddol ac yn ddyfnach na'r presennol a'r dyfodol. Mewn gwirionedd, y dref farw hon yn fynych yw aelwyd brysuraf Bod; ac yn ôl yr ysbryd a'u dygo yno, tyn rhai eu holl oludoedd ohoni, treulia eraill hwy yno i gyd.
O'm rhan fy hun, rhaid i mi gyfaddef bod yn hoff gennyf yr amser a fu, yn rhy hoff, fe ddichon. Nid hyfryd i mi, pan ddarllenais y llyfr gyntaf, ymhell oddi cartref, oedd weled y Belgiad yn malu