rhai o'm heilunod, ac eto, nid amau gennyf na wnaeth ei waith les i mi pan dybiwn nad oedd ddichon i mi fyw onid yn y gorffennol, pan oedd y presennol yn ddu a'r dyfodol wedi darfod.
Y mae'r syniadau sydd megis wedi tyfu ynom, medd Maeterlinck, yn peri i ni ystyried y gorffennol fel gallu mor bwysig a diysgog â Thynghedfen ei hun. Efô yw'r dynged sydd o'n hôl ac yn ein gwthio, fel y mae'r llall sydd o'n blaenau yn ein tynnu. Dichon dyn amau Tynghedfen, ond nid amau gan neb nerth y gorffennol. Eto, medd ef, nid oes dim yn ein gorffennol onid a roddwn ni ynddo ein hunain, ac y mae yntau yn newid yn barhaus i ganlyn ein presennol. Cymer yn ddioed ffurf y cawg y bydd ein meddwl ni heddiw yn ei gynnull ef ynddo. Yn ein cof y mae ef, ac nid oes dim yn newid cymaint na dim mor hawdd peri argraff arno â'r cof. Y peth sydd o bwys i ni yn y gorffennol yw'r effaith foesol a wneir arnom. gan y digwyddiadau a fu, ac nid effeithiant hwythau arnom ond hyd yr ymwrthodwn ninnau ag effeithio arnynt hwy. Nid ymeifl y gorffennol ond yn y sawl y bo'r bywyd moesol wedi sefyll ynddo, ac ni chymer ffurf arswydus ond ar ôl y safiad hwnnw. Ond bod yn feistr arno, fe a'n gwasanaetha; ond o bydd ef yn feistr arnom ni, fe a'n lladd. Dylai ein beiau yn y gorffennol ein