Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/153

Gwirwyd y dudalen hon

codi uwchlaw'r beiau y teimlom ein bod eto'n abl i'w cyflawni heddiw, ac fe'n gad ein troseddau pan deimlwn ni na allai un demtasiwn nac un gallu yn y byd ein gorfod i gyflawni eu tebyg mwy. Ni dderfydd eu heffeithiau, y mae'n ddiau, ond ni ddylent hwy gyfodi o'n blaenau onid pan dueddwn drachefn tua'r dibyn lle y maent hwy. Ni all na chyfyd llawer bai ryw ddydd i hawlio'r hyn sy ddyledus iddynt; ond ar ein cydwybod ni a'r farn a roddom arnom ein hunain o'u plegid, y dibynna pa un ai fel dialyddion bygythiol ai fel ymwelyddion da eu hewyllys y dont. Os fel yr olaf y dont, ni wnant ond tywallt i'n calonnau y meddyliau a'r gofid sy'n dyrchafu, yn puro ac yn cysuro. "Na chysgwn yn ein gorffennol," ebr yr awdur; "pan adawom iddo ef rwystro un weithred y mynnem ei gwneuthur, dyna'r pryd y dechreua ein marwolaeth, ac y cymer adeiladau'r dyfodol ffurf beddau."

Yn y rhan sydd ganddo ar Ffawd neu Lwc, sonia'r awdur am y lwc wastadol sydd i ambell rai a'r anlwc gyson sydd i eraill yn y byd. Diau fod rhan fawr o'r lwc a'r anlwc yn ddyledus i ddynion. eu hunain, ond deil ef fod rhan helaeth yn gyfryw fel na ellir eu priodoli onid i ewyllys rhyw allu, gallu a elwir yn gyffredin yn Ddamwain neu Dynghedfen ac enwau tebyg. Daw pethau tebyg