Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/157

Gwirwyd y dudalen hon

ddaw, fel y gwyddom pa beth a fu. O safle ein dychymyg, nid oes reswm paham na welem y peth nad yw eto, gan fod yn rhaid bod y peth nad yw eto, mewn perthynas â ni, yn bod eisoes ac yn ymddangos yn rhywle.[1] Ynddo'i hun, y mae bron yn sicr nad yw Amser, er i ni ei rannu yn orffennol a dyfodol, ond un Presennol aruthr, tragywydd, sefydlog, lle y mae popeth a ddigwyddodd neu a ddigwydd yn digwydd yn ddigyfnewid, heb fod yfory, namyn yn ysbryd dyn, yn ymwahaniaethu oddi wrth ddoe neu heddiw. Y mae dyn erioed yn chwilio am agen yn y pared rhyngddo a'r dyfodol, ac nid yw Maeterlinck yn amau na bu weledyddion a phroffwydi â'u gïau yn gyfryw fel y gallai eu cydwybod a'u greddf gymuno â'i gilydd. Gan mor brin yw'r rheiny, cafwyd hyd, neu gredu ddarfod cael hyd i foddion cyfareddol i ddarllen y dyfodol. Barnai Maeterlinck nad oedd i'r wybodaeth honno mo'r glod a fu iddi unwaith erbyn yr adeg yr ysgrifennai ef ei lyfr- yr oedd y presennol a'r gorffennol yn ddigon i dorri ein syched am ryfeddodau. Eto, ni lwyr adewsid mo'r hen ddewiniaeth. Yna, dyry'r awdur hanes ei ymweliadau ef ei hun â rhai gweledyddion a dewiniaid yn Paris, un ferch

  1. Ar y pen hwn, gweler syniadau tebyg yn An Experiment with Time. J. W. Dunne. London, A. & C. Black. 1929.