Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/159

Gwirwyd y dudalen hon

Dyna, hyd y gellais i ei roddi, grynhodeb o gynnwys un o'r llyfrau mwyaf nodedig a ddar llenais erioed. Ysgrifennwyd yr ysgrif hon gyntaf flynyddoedd cyn y Rhyfel Mawr, a chyn darllen o'r ysgrifennydd lawer o lyfrau a ddarllenodd wedyn. Erbyn hyn, ymddengys iddo ef mai ymhlith trigolion Fflandrys yn unig y gallai meddyliwr. fel Maeterlinck gyfodi. Y mae ôl y materoldeb a geir yng nghelfyddyd y bobl hynny, yng ngwaith eu peintwyr a'u beirdd-Verhaeren, er enghraifft— a'r ddisgyblaeth gyferbyniol ymhlith eu crefyddwyr (deubeth y digwyddodd i mi eu clywed yn gwrthdaro ac yn ymryson â'i gilydd yn ymddiddanion peintwyr, beirdd a cherddorion Belg yn ystod y rhyfel,)[1] i'w canfod yn eglur ym meddylwaith

  1. Nid anghofiaf byth un ymddiddan. Yr oedd yno bedwar neu bump ohonom, dau neu dri o Fflandrwys a dau Gymro. Yr oedd un o'r Fflandrwys yn adnabod Maeterlinck yn dda, a gofidiai ei fod ef wedi peidio â bod yn "bon croyant" fel y buasai gynt. Soniem am ddyletswydd dynion yn y dymestl gyntefig, yn y don aruthr honno o ofn a chynddaredd a ysgub- odd dros wledydd cyfain. Cododd pwnc materolaeth. Fflam- iodd llygaid un o'r Fflandrwys, un a fuasai'n ymladd ac a gawsai fwled drwy ei ysgyfaint. Meddai, gydag angerdd aruthrol: "O'm rhan i, mynnwn fod yn sant, yn sant, yn sant!" ("Moi, je veux être un saint, un saint, un saint!"). Ac nid oedd fodd ei amau ddim