Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/169

Gwirwyd y dudalen hon

llinell, sylwais ei fod yn chwarae â chwilsyn oedd ar y ddesg y safai wrthi, a ninnau'n rhes, bob un yn adrodd yn ei dro. Dodai'r arholwr flaen y cwilsyn mewn inc coch a gwnâi farc ag ef ar wynebau rhai o'r plant. Pan ddaeth fy nhro, rhoes imi linell yn agos i'r dechrau, a gadael i mi fynd ymlaen hyd ddiwedd y darn. Gwelwn y cwilsyn yn dynesu at fy wyneb, ond tarewais ef o'i law a rhedais allan. Galwodd arnaf, yn ofer, a chlywais ef yn chwerthin wrth i mi fynd drwy'r drws. Yr wyf yn meddwl beth yn well ohono bellach, ond y pryd hwnnw, yr oeddwn yn meddwl ei fod yn hy, gyda'i inc coch, ac yn ddwl—gwrando ar hogyn yn adrodd can' llinell o ganol cerdd, ac yntau yn ei medru i gyd! Nid wyf yn sicr nad wyf o'r un farn hyd heddiw am y dylni. Ac ni waeth cyfaddef na pheidio fy mod, er gwaethaf yr holl feirniaid, yn dal i hoffi prydyddiaeth Scott. Gofidiwn gynt na buasai brydyddiaeth debyg yn Gymraeg. Gofidiaf hynny eto. Daeth Scotland felly yn wlad rhamant i mi, mewn modd na ddaethai Cymru eto, ac arweiniodd "Iarlles y Llyn" fi ar hyd llwybrau anghynefin. Dysgodd i mi o'r diwedd fiwsig ei hiaith ei hun, nad yw Scott ond adlais ohono. Ai damwain oedd rhoi'r can' llinell hynny o Scott i ni i'w dysgu ar dafod leferydd? Ni wn i ac ni waeth