Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/177

Gwirwyd y dudalen hon

clyfar o ran dyfais a chyfansoddiad, ond nad ynt wedi'r cwbl ond astudio chwant tybiedig neu wynfyd dychmygol. Daeth pethau y bydd meddygon, ac eraill sy'n chwilio hanes y corff a'r meddwl dynol, yn eu hastudio, a hynny'n oer a di-nwyd, i fod yn ddeunydd rhamantau poethion a nwydus y chwedlyddion-ar-gyfer-y-farchnad—yr oedd cylchrediad y llyfr yn bwysicach na chylchrediad y gwaed.

At bwrpas fel hyn, ni thalai helyntion y dyn cyffredin ddim. Rhaid chwilota am bethau anghyffredin a gwrth-gyffredin. Ni allai dim fod yn ddiddorol onid rhysedd y ddeuryw, a greddfau didoriad ac annisgybledig. Ac yn wyneb y cwbl, rhyw agwedd yn awgrymu na waeth heb ymboeni-nad oes i ddyn lwybr onid dilyn ei reddfau, boent fel y bônt, oni fyn ef, drwy eu llethu, beri bod ei ddiwedd yn waeth na'i ddechreuad.

Ymwthiodd y pethau hyn hyd yn oed i farddoniaeth, eisoes cyn y Rhyfel Mawr-hawdd fyddai dangos tuedd rhai beirdd i chwilio am ryw athroniaeth a gyfiawnhai lywodraeth grym. didrugaredd ar y byd. Gwelai rhai ohonynt—Verhaeren, y bardd Belg, er enghraifft—ogoniant yn natblygiadau aruthr diwydiannau eu cyfnod, eu hoffer, eu peiriannau a'u llestri, eu brys diorffwys a'u cyflymder, eu sŵn, hyd yn oed—codai rhyw