Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/179

Gwirwyd y dudalen hon

ohonynt eisoes. Diau fod digon o angen am bentrefi a fo'n batrwm i eraill yn y wlad hon, ac na ellir dibrisio gwasanaethgarwch haearn-a-chwncrid at rai amcanion, ond gwelir yn fynych yn llinellau llawer o'r adeiladau hynny ryw unffurfiaeth ddigalon, rhyw wth gyntefig, rhyw symbyliad bygythiol, chwithig, sy'n peri i ddyn feddwl am deip newydd o slwm dyfodol, a chofio geiriau Dante:

Lasciate ogni speranza, voi ch'entrate."

(Gad obaith heibio oll pan ddelych yma.)

Ni ellir gwahanu'r pethau hyn oll ac eraill oddi wrth y datblygiadau a grybwyllwyd ar y dechrau. Ni ellid osgói'r newid safonau, ar ôl trechu pellter, goleuo nos y gorffennol, a dysgu'r Chwedleuwyr i swlffa ym meysydd gwybodau eto heb gwbl dyfu allan o gylch damcaniaeth a dadl.

Diau mai ar yr un neges yn union â'n tadau cyntefig yr ydym ninnau—ni newidiodd dim ond yr arfau. Ac eto, y mae Dedwyddyd mor bell ag erioed, er bod cyfleusterau pleser yn amlach nag erioed. Fel y dywedodd un o'n poetau wrthym, mewn Cymraeg odidog:

Ffulliwn hyd ddau begwn byd
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd,
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr