Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/180

Gwirwyd y dudalen hon

—yn ofer, canys nid yw Dedwyddyd yno. mae un amod allan o'r cyfrif, er bod greddf ddyfnaf dynoliaeth, fel y dywedodd Maeterlinck, weithiau'n ein gorfod i gymryd cam tuag ato- pan aeth arfau dynion gynt mor effeithiol yn eu tro nes peryglu parhad yr hil, daeth peth mor syml â thalu galanas yn ddefod yn lle'r dial gwaed.

O bryd i bryd yn llenyddiaeth yr oesau, ceir datblygiadau nid annhebyg i rai o'r pethau y buom. yn ceisio'u holrhain. Bu'r hiraethu am y "bywyd syml" ymhlith llenorion Groeg a Rhufain. Ceir edmygu barbariaid, fel y Scythiaid a'r Getiaid, gan brydydd pendefigaidd fel Horas ei hun, a chymell ei gyd-ddinasyddion i fwrw eu golud i'r môr er mwyn dianc rhag y dynged a'u bygythiai.

Dilys bod crwth neu delyn.
Yn ceisio dihuno dyn.

medd un arall o'n poetau Cymraeg gynt. Ac nid yw llenyddiaeth a chelfyddyd ein dyddiau ni heb rai lleisiau sy'n arwyddo bod blino ar gyfnod y brys a'r brawiau y tu mewn i bosibilrwydd pethau wedi'r cwbl. Ymddengys fod symledd a sylwedd y ddrama werin yn apelio o'r newydd at ddynion, yn Lloegr, yng Nghymru pan gaffo gyfle, yn Iwerddon, ar y cyfandir, yn enwedig yn Awstria