a'r Almaen, lle y mae chwarae pethau fel gwaith Von Hofmannsthal a Max Mell yn gyffredin.
Gellir casglu hefyd oddi wrth lwyddiant teip o nofel, megis gwaith Priestley yn Lloegr, fod eto alw gobeithiol am ddiddanwch chwedleua am gymeriadau cyffredin sy'n ddiddorol er bod yn syml ac yn synhwyrol heb fod yn rhy synhwyrus, yn ddigon cymysg, os mynnir, i'n gadael heb lwyr anobeithio am ddyfodol ein dynoliaeth gyffredin, er gwaethaf ein holl wendidau.
Pa beth hefyd fydd effaith y gwrando distaw ar warder y gerddoriaeth uchaf, a glywir bellach. lle y mynner, pryd nas clywid gynt, yn ei chyflawnder ac â'r medr mwyaf, onid yn y trefi mwyaf yn unig? Y mae ewyllys, o leiaf, mewn gwrando distaw ar feistriaid y gelfyddyd fwyaf cymodlawn a ddatblygodd dyn.
Ac am y beirdd, o Francis Thompson at Masefield, ni all miloedd ddianc rhagddynt, mwy nag y gallent hwythau ddianc rhag Bytheuad y Nef neu'r Drugaredd a bery'n dragywydd. Neu feirdd o feddyliau syml, cywir, fel W. H. Davies a Huw Menai, os caf gydnabod dyled iddynt am gysur nas ceir ond gan gelfyddion sydd yn canfod prydferthwch a doethineb mewn pethau cyffredin, yn yr hen fyd anffodus hwn, hyd yn oed ymhlith dynion, er gwaethaf eu trueni a'u pechodau.