Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/183

Gwirwyd y dudalen hon

dychmygu fel y byddai hi yn tosturio ato wedi ei farw, druan bach!

When knowledge has reached manhood but to see Wisdom still babbling in its infancy,

meddai Huw Menai am ein cyfnod ni. Diau. Eto, y mae'r bregliach yn rhywbeth. Nid hwyrach nad ein tasg ni fydd dysgu, drwy brofiad chwerwach nag erioed, efallai, mai pennaf peth yw Doethineb. Pan ddysgom hynny, yna y bydd wir y gair a lefarwyd—"Wele, gwnaethpwyd pob peth o'r newydd."

(1933.)